Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

penaeth, a ddywedasant:— Y penaeth ydyw tad ei bobl, ac a ddichon fod pobl heb dad, Eh?"

"Duw a wnaeth y penaeth. Pwy a ddywedodd nad ydyw efe ddoeth?. Y mae y penaeth yn ddoeth, ond ei blant ydynt ynfydion!"

Siampl arall o ddull y Makololo o ymresymu sydd fel y canlyn:—Yr oedd y fintai wedi sefyll mewn pentref, a daeth penaeth y pentref i erfyn yn daer am anrhegion, gan ddywedyd, "Yr ydych yn bobl wynion; a phaham na roddwch i mi frethyn?" i'r hyn yr atebodd un o'r Makololo—"Dyeithriaid ydym ni, a phaham na ddygi di ymborth ger ein bronau?"

Matonga, un o'r Makololo oedd wedi cytuno o'i wirfodd i gyneu tan y dyn gwyn, ar y telerau arferol o gael penau a gyddfau yr oll o'r adar a'r bwystfilod a leddid gan Livingstone, a flinodd ar amledd a lluosowgrwydd y penau a'r gyddfau adar, a phrinder y penau bwystsilod a ddeuent i'w ran, a chan wysio ei holl wroldeb, efe a ddywedodd:—

Fy Arglwydd, nis gall dyn newynog lanw ei ystumog gyda phen aderyn; a lleddir ef gan angen am gig, ac yn fuan efe a fydd farw o wendid, ac yn analluog i gario coed i wneyd tân. Efe a ddylai gael aderyn cyfan i'w waredu rhag newyn.".

Bryd arall, pan oedd penaeth a dderbyniasai anrheg braidd yn annyben yn dychwelyd y caredigrwydd mewn rhyw ffurf ar yr esgus fod arno beswch, Makololo dig, llawn a ofynodd:—

"A ydyw y peswch ar ei anrheg hefyd, fel na ddaw hi i ni? Ai dyma'r modd yr ymddyga eich penaeth tuagat ddyeithriaid—derbyn eu hanrhegion a pheidio anfon iddynt ymborth mewn cyfnewid?"

Ar y 18fed o Awst, 1860, gwelodd Livingstone a'i gwmni y penaeth Makololoaidd Seketu unwaith yn ychwaneg. Yr oedd cyfnewidiadau pwysig wedi cymeryd lle yn ffawd y penaeth Makololoaidd er pan ymadawsai y dyngarol Livingstone oddiwrtho yn Nhachwedd, 1855. Llawer o'r Makololoaid a ddyoddefasant adfyd chwerw. Daeth sychder crasboeth ar eu gwlad, yr hwn a ddinystriodd gnydau a phorfeydd Jinjanti. Yr