Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Mozambique. Canlyniad ymchwiliadau Livingstone ar Lyn Nyassa ydyw dynoethiad y fasnach ffiaidd a dychrynllyd hon; a thaerion a fuont ei annogaethau a'i gynghorion i'r Llywodraeth Brydeinig i fabwysiadu mesurau er attal y drafnidiaeth. Yn anffodus, modd bynag, ni welsom ei gynghorion yn cael eu cwblhau hyd yma, ac y mae'r felldith yn parhau, ac fel cancr ysol yn dinystrio cenedloedd syml rhandiroedd y Llyn mawr.

Taith o ddeugain niwrnod a ddygodd y fintai yn ol i'r Shire, ac wedi hyny hwy a hwyliasant i lawr i'r afon hono, a thracheln i fyny y Zambesi hyd Zette, lle y cyrhaeddasant ar y 25ain o Ebrill, 1860. Weithian trodd Livingstone ei sylw at gyflawni ei addewid i'r Penaeth Makololoaidd Seketu, ac wedi angori yr agerlong "MaRobert" gerllaw ynys ar gyfer Zette, efe a gychwynodd i Linyanti ar y 15 fed o Fai. I'r rhai oeddynt wedi gweithio gyda'r ymgyrch, talwyd cyflogau cyflawn am eu gwasanaeth cyn cychwyn, a phrynwyd brethynau, gwelyau, &c., i wneyd anrhegion, a cheisiwyd cyflenwad o ymborth gogyfer a'r daith.

Heblaw eu bod yn ddewrion a ffyddlon, yr oedd y Makalolo hefyd yn nodedig ar gyfrif eu difaterwch a'u gwreiddioldeb. Yn y gwersylloedd lle y gorphwysent y nos ar ol eu teithiau dyddiol, ceid dadleuon politicaidd yn rhedeg yn uchel rhyngddynt ambell dro, a chlywid hwy yn gwneyd sylwadau dyddorol pan yr ymresyment yn nghylch llywodraeth ddrygionus rhai penaethiaid arbenig. Cofnododd Dr, Livingstone y ddadl, yr hon a ddengys y meddyl-ddull a fodolai yn eu plith:

Un a ddywedai:—"Gallem lywodraethu ein hunain yn well, ac o ganlyniad pa ddaioni ydyw penaethiaid o gwbl?"

Un arall a ddywedai:—"Y mae'r penaeth yn dew, ac yn meddu cyflawnder o wragedd, tra yr ydym ni sydd yn cyflawni y caledwaith yn anghenus, ac heb feddu ond un wraig bob un. Yn awr, rhaid fod hyn yn ddrwg, anghyfiawn, a gwrthun."

Y gweddill a atebasant, "Eh! Eh!" yn gymeradwyol. Ond y rhai mwy teyrngarol, neu ddadleuwyr y