Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghylch y corff o ddwfr y chwilient am dano, ac atebodd y Penaeth na chlybuasai efe erioed fod, y fath beth yn ei gymydogaeth. Y Makololo, yn ogystal a Livingstone, a edrychasant yn siomedig pan glywsant y newydd rhyfedd yma, ac un o honynt a ddywedodd, "Dychwelwn i'r llong; nid ydyw o unrhyw ddyben ceisio darganfod y llyn. Un arall a ddywedodd, "Ond y mae yma lyn, er yr oll a wadant hwy, canys dywedir amdano mewn llyfr." Profodd y "llyfr" ei hun yn gywirach na Phenaeth Manganja, oherwydd ar yr 16eg o Fedi, 1859, darganfyddwyd Llyn Nyassa. O'r corff ardderchog hwn o ddwfr y rhedai yr Afon Shire, ac oni bai Rhaiadrau Murchison, ni buasai fesur ar y dylanwad a allasai darganfyddiad Llyn Nyassa gael ar ddadblygiad Canolbarth Affrica.

Cafodd Livingstone brawfion sicr mai oddiamgylch y Llyn hwn yr oedd prif gyniweirfa y caethfasnachwyr. Deuai ugeiniau o Arabiaid yma yn flynyddol gyda brethyn ac arian, a phrynent heidiau lluosog, a'r canlyniad oedd fod diboblogiad cyflym yn cymeryd lle yn y fro. Yr oedd y Manganjas, trwy gael eu temtio gan y rhagolwg am ddyfod i feddu brethyn, gwelyau, a'r pethau a gyfansoddant gyfoeth yn y wlad hon, yn ymadael a'u plant eu hunain yn rhwydd i'r Ajawas, yr Arabiaid, a chaethfasnachwyr ereill. Y mae'n achos o syndod hefyd rated y cyfrifai y Manganjas eu plant a'u perthynasau. Gellid prynu dyn am bedair llath o lian cyffredin, a chyfrifid tair llath yn bris da am ddynes, tra nad oedd bachgen neu eneth yn werth dim ond dwy. Yr oedd y rhwyddineb cydmarol gyda pha un y gwnelai yr Arabiaid eu ffortun ar gyfrif prisiau isel y caethion, yn gwneyd cylchoedd y Llyn hwn yn brif gyrchfa i gaethfasnachwyr Kilwa a Zanzibar.

Cynllun arall a ddefnyddid gan y caethfasnachwyr i gael cyflenwadau oedd ymuno i ymosod ar y pentrefi, a chymeryd pob bod dynol a geid o'u mhewn yn alluog i weithio yn gaethion. Yn ol adroddiad y Cadfridog Rigby, y mae agos yr oll o'r caethion a werthir yn Zanzibar wedi eu cyrchu o ddosbarth y Nyassa, er y dygir hwy i'r farchnad trwy Kilwa a phorthladdoedd Portuguaidd