Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac oddiyno disgynasant y Zambesi i Kongone i ymofyn cyflenwad o ymborth ac i adgyweirio y llong.

Gwelwyd fod gwaelod y "Ma-Robert" (yr hon oedd wedi ei gwneyd o ddur) yn llawn o fân dyllau ac agenau yn mhob cyfeiriad; a chyn gynted ag y clytid rhai tyllau i fyny gan y peiriannydd, darganfyddid ereill yn mhob cyfeiriad trwy gorff y llong,

Oddeutu canol mis Awst, 1859, dechreuodd y cwmni esgyn y Zambesi i'r dyben o ddarganfod Llyn Nyassa. Wrth fyned i fyny y Shire, hwy a welsant yrr o wyth gant o gawrfilod (elephants). Y mae'r doldiroedd oddeutu yr afon hon yn nodedig fel preswylfeydd cawr-filod; a cheir yma hefyd nifer lluosog o ddwfr-adar mawrion.

Gan adael y llong ar yr 28ain o Awst, 1859, arweiniodd Livingstone fintai dros y tir, yn gynnwysedig o bedwar dyn gwyn, 36 o'r Makololo, a dau ddryll. Gwedi croesi bryniau Milanje, rhwng pa rai y gwelsant ugeiniau o bentrefydd, yn cynnwys pobl dawel a heddychlon, hwy a ddaethant i fwrdd-dir eang, dair mil o droedfeddi uwchlaw arwyneb y môr, parth gogledd-ddwyreiniol pa un a ddisgynai i lawr at lan Lyn Shirwa. Swynwyd hwy gan odidowgrwydd y wlad i'r fath raddau fel nad oeddynt byth yn blino syllu ar ei gwastadeddau ffrwythlon, y bryniau lluosog, a'r mynyddoedd mawreddog. Yn ngheseiliau rhai o'r mynyddoedd canfu Livingstone flodau tlysion a ffrwythydd dymunol, y rhai oherwydd eu tebygrwydd i flodau a ffrwythydd Prydeinig, a'i hadgofient am ei gartref.

O'r rhandir yma, disgynodd y fintai i Ddyffryn y Shire Uchaf—tiriogaeth nodedig o ffrwythlon, ac yn cynnal poblogaeth luosog. Yr oedd eu ffordd yn Nyffryn y Shire Uchaf yn cydredeg â'r afon uwchlaw Rhaiadrau Murchison. Yma, ceid hi yn afon ddofn a llydan, a'i rhedlif yn nodedig o araf. Mewn un lle hi a ymledai nes ffurfio llyn a elwid Panalombe, yr hwn oedd o ddeg i ddeuddeg milldir o hyd, ac yn agos i chwe' milldir o led, ac yn llawn o bysgod breision.

Pan gyrhaeddasant i bentref oddeutu taith diwrnod o Lyn Nyassa, hwy a holasant y Penaeth Muau Moesi yn