Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allai efe a'i bobl gynnyg, a hyny am brisiau da. Galwodd Tingane ei bobl yn nghyd, y rhai a gymeradwyasant y cynnygiad rhesymol, canys yr oeddynt yn fasnachwyr call, ac yn meddu cywired syniadau a'r bobl wynion am uniondeb a thrawsder.

Gwedi treiddio i fyny i'r Shire am gan' milldir, attaliwyd hwy gan raiadrau ysblenydd, i ba rai y rhoddodd Livingstone yr enw Murchison, ar ol Syr Roderic Murchison, llywydd y Gymdeithas Daearyddol Freninol; ac wedi anfon cenadwri garedig ac anrhegion i ddau a reolant diriogaethau pellach, dychwelodd y "MaRobert" i Tetti."

Cychwynwyd yr ail daith i fyny Shire yn Mawrth, 1859. Erbyn hyn, yr oedd y brodorion yn gyfeillgar, a gwerthent i'r teithwyr bobpeth oedd arnynt eisieu gyda pharodrwydd. Gyda'r Penaeth Chibisa, yr hwn a breswyliai ddeng milldir islaw y rhaiadrau, daeth perthynasau y dynion gwynion i fod yn dra chyfeillgar. Gan adael y llong gyferbyn a phentref Chibisa, aeth Dr. Livingstone gydag un o'i gymdeithion a nifer o'r Makololo ar daith ymchwiliadol am Lyn Shirwa. Hwy a gymerasant gyfeiriad gogleddol ar draws gwlad fryniog. Oherwydd eu hanwybodaeth o'r iaith frodorol, cawsant gryn drafferth i argyhoeddi y bobl eu bod wedi dyfod ar neges heddychol, ond trwy eu dyfalbarhad, coronwyd eu llwyddiant yn y diwedd â darganfyddiad Llyn Shirwa—corff lled fawr o ddwr, yn cynnwys pysgod, crocodilod, ac afon-feirch. Ymddengys ei fod yn ddwfn, canys ymddyrchafai ynysoedd bryniog ohono. Cafwyd ei fod rhwng triugain phedwar ugain milldir o hyd, oddeutu ugain milldir o led, ac yn uwch na'r mor o 8000 o droedfeddi. Y mae'r wlad oddiamgylch ei derfyn gogleddol yn nodedig o brydferth a dymunol—y golygfeydd yn cael eu hamrywiaethau gan ddyffrynoedd a bryniau coediog.

Gan yr ofnent i'w hymchwiliadau parhaus enyn drwgdybiaeth y trigolion, Livingstone a'i gymdeithion a benderfynasant ddychwel i'r Shire, ac awd yn yr agerlong Tette, i'r hwn le y cyrhaeddwyd ar y 23ain o Ionawr,