Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

swyddogion cyflogedig. Ffurfia y dref ganolbwynt mawr y Gaethfasnach. Y trigolion a brynant gaethion o'r canolbarth, ac a'u hyfforddiant ac a'u dygant i fyny fel helwyr cawrfilod, ac fel gweision a morwynion teuluaidd.

Y mae'r gymydogaeth gylchynol, ac yn enwedig gwelyau y ffrydiau, yn cynnwys aur, ond y mae difaterwch a diogi y trigolion, yn nghyda Llywodraeth anfoddhaol y lle, wedi attal cynnyrchiad llawer o hono.

Gwedi archwilio yr afon i'r gogledd o Tette, a chael boddlonrwydd ei bod yn hollol anfordwyol gydag agerlong wan, dechreuodd y cwmni ddisgyn y Zambesi. Ysgrifenodd Livingstone at y Llywodraeth Gartresol fod yn yn anymarferol ceisio esgyn y gwyllt-lifiadau Kelrabassa, i'r gogledd o Tette, gyda'r "Ma-Robert, grym agerol yr hon nid ydoedd ond nerth deg ceffyl, a gofynodd am i long gyfaddas gael ei hanfon at ei wasanaeth i'r Zambesi; ac wedi anfon y genadwri hon, efe a benderfynodd arwain ei ymgyrch i fyny y Shire. Y mae'r Shire yn un o gangenau pwysig y Zambesi, ac yn ymarllwys iddi oddeutu can' milldir oddiwrth y môr. Nid oedd Ewropeaid wedi esgyn y Shire yn flaenorol, ac o ganlyniad, nis gallai y Portuguaid roddi unrhyw hysbysrwydd o berthynas iddi. Ni threiddiasai y trasnidwyr i fyny i'r afon hon mewn ymchwil am gaethion, ac nid agorasid unrhyw gymundeb gyda'r llwythau anwar y dywedid eu bod yn preswylio ar ei glanau. Cychwynwyd y daith i fyny i'r Shire yn Ionawr, 1859. Oddeutu deng milldir ar hugain i fyny i'r afon, y teithwyr a ddaethant at bentref a lywodraethid gan benaeth o'r enw Timme, a daeth attynt bum' cant o frodorion, gan orchymyn iddynt sefyll. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan y Llywodraeth i agor cymundeb â'r bobl cydsyniodd Livingstone â'r alwad i sefyll, a sicrhaodd Tingane fod y Prydeinwyr yn ffieiddio y fasnach mewn caethion, ac na ddymunent wneyd dim ond meithrin perthynasau cyfeillgar gyda'r llwyth oedd o dan ei lywodraeth ef a'r bobl a breswylient tuhwnt i derfynau ei wlad, a'u bod yn barod i brynu cotwm a phob cynnyrch tirol a swyddogion cyflogedig. Ffurfia y dref ganolbwynt mawr y Gaethfasnach. Y trigolion a brynant gaethion o'r canolbarth, ac a'u hyfforddiant ac a'u dygant i fyny fel helwyr cawrfilod, ac fel gweision a morwynion teuluaidd.

Y mae'r gymydogaeth gylchynol, ac yn enwedig gwelyau y ffrydiau, yn cynnwys aur, ond y mae difaterwch a diogi y trigolion, yn nghyda Llywodraeth anfoddhaol y lle, wedi attal cynnyrchiad llawer o hono.

Gwedi archwilio yr afon i'r gogledd o Tette, a chael boddlonrwydd ei bod yn hollol anfordwyol gydag agerlong wan, dechreuodd y cwmni ddisgyn y Zambesi. Ysgrifenodd Livingstone at y Llywodraeth Gartresol fod yn yn anymarferol ceisio esgyn y gwyllt-lifiadau Kelrabassa, i'r gogledd o Tette, gyda'r "Ma-Robert, grym agerol yr hon nid ydoedd ond nerth deg ceffyl, a gofynodd am i long gyfaddas gael ei hanfon at ei wasanaeth i'r Zambesi; ac wedi anfon y genadwri hon, efe a benderfynodd arwain ei ymgyrch i fyny y Shire. Y mae'r Shire yn un o gangenau pwysig y Zambesi, ac yn ymarllwys iddi oddeutu can' milldir oddiwrth y môr. Nid oedd Ewropeaid wedi esgyn y Shire yn flaenorol, ac o ganlyniad, nis gallai y Portuguaid roddi unrhyw hysbysrwydd o berthynas iddi. Ni threiddiasai y trasnidwyr i fyny i'r afon hon mewn ymchwil am gaethion, ac nid agorasid unrhyw gymundeb gyda'r llwythau anwar y dywedid eu bod yn preswylio ar ei glanau. Cychwynwyd y daith i fyny i'r Shire yn Ionawr, 1859. Oddeutu deng milldir ar hugain i fyny i'r afon, y teithwyr a ddaethant at bentref a lywodraethid gan benaeth o'r enw Timme, a daeth attynt bum' cant o frodorion, gan orchymyn iddynt sefyll. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan y Llywodraeth i agor cymundeb â'r bobl cydsyniodd Livingstone â'r alwad i sefyll, a sicrhaodd Tingane fod y Prydeinwyr yn ffieiddio y fasnach mewn caethion, ac na ddymunent wneyd dim ond meithrin perthynasau cyfeillgar gyda'r llwyth oedd o dan ei lywodraeth ef a'r bobl a breswylient tuhwnt i derfynau ei wlad, a'u bod yn barod i brynu cotwm a phob cynnyrch tirol a