Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flynyddol, caniateir iddynt dramwyo i fyny ac i lawr i'r afon yn ddirwystr. Heblaw hyn, rhaid iddynt hefyd dalu symiau blynyddol am freintiau ereill, megis caniatad i amaethu y tir, tori coed i adeiladu cychod ac i wneyd hwylbreni. Achosir hyn oherwydd fod y trigolion sefydlog yn rhy weiniaid i wrthsefyll nerth y gwibwyr lladronllyd sydd mor lluosog ar ochr ddeheuol yr afon.

Fel yr oedd y teithwyr yn ymwthio yn mlaen i fyny i'r afon tua Tette, prif ddinas y diriogaeth Bortuguaidd, hwy a ganfyddasant gyfansoddiad diffygiol y llong "MaRobert." Yr oedd ei ffwrneisiau mor anghyfaddas fel y llosgent goed agos cygyflymed ag y gellid eu tori, ac felly gwnaed taith yr ymchwilwyr yn arafaidd a blinderus. Yr oedd mordwyad y Zambesi hefyd yn nodedig o anhawdd. Fel yr ymledai yr afon, yr oedd hi yn dyfod yn fasach; a rhwng Shupanga a Seuna, yr oedd hi yn llawn o laid a banciau tywodlyd. Cyn cyrhaedd Seuna, canfyddasant eu hunain yn analluog i fyned yn mlaen yn uwch heb anhawsdra dirfawr, ar gyfrif basder yr afon.

Ar yr 8fed o Fedi, 1858, angorodd y "Ma-Robert" ar gyfer Tette, gwedi teithio y Zambesi o'i harllwysiad. Parhaodd y daith, yn cynnwys llawer o attaliadau, am ddau ddiwrnod a phedwar ugain. Ebrwydded y clybu y Makololo, y rhai a adawsid gan y Dr. Livingstone yn Tette oddeutu diwedd Ebrill, 1856, fod eu cyfaill wedi dychwelyd, hwy a ruthrasant at lan y dwr, gan arddangos y llawenydd mwyaf oherwydd ei weled. Hwy a fynasent ei gofleidio, oni bai i'r rhai doethion rybyddio y gweddill i ymattal, rhag ofn iddynt ddwyno ei ddillad newyddion!

Saif Tette ger glan y Sambesi, ar gyfres o drumau tywodfaenaidd. Gwasanaetha y pantleoedd rhwng y trumau fel heolydd, ac y mae'r tai ar gribau y trumau. Ceir y llysiau a elwir indigo, senna, a stramionium yn gorchuddio y parthau didraul o'r heolydd fel chwyn. Defnyddir y gaerfa a'r eglwys fel y prif gadarnleoedd; ac amgylchir y dref gan fur cyfansoddedig o laid a cheryg. Ychydig ydyw nifer y Portuguaid gwynion a breswyliant yma; ac y mae y mwyafrif ohonynt yn rhai a alltudiwyd i'r lle trwy orfodaeth, neu ynte yn