Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

coed cangenog a thalgryfion yn adsain caneuon buddugoliaethus teyrn yr adarbysg, ac udiadau herfeiddiol y pysg-eryr, heblaw ysgrechiadau craslyd yr ibis.

Tuhwnt i'r glanau coediog, yr archwilwyr anturiaethus a ganfyddasant wastadedd gorchuddiedig gan laswellt anferth o uchel, trwy ba un yr oedd braidd yn anmhosibl teithio. Gerllaw i'r afon, fel yr esgynent, hwy a ganfyddent, yma a thraw, bentref cwrtais yn codi ei ben o dan gysgod dail enfawr y coed ffrwythlon; a phreswylid y treflanau hyn gan bysgodwyr, neu gan lwythau ofnus a ddiangasant o fagl y caeth-heliwr. Cafwyd fod y pridd rhydd a thywodlyd yn nodedig o ffrwythlon, ac yn cynnyrchu pytatws melusion, pumkins, tomatoes, bresych, wynwyn, cotwm, a siwgrwydd. Mewn gair, y mae y wlad a ymestyn o'r tu cefn i gamlas cors Kongone i'r tuhwnt i'r Mazavo, am bedwar ugain milldir o hyd a haner cant o led, yn nodedig gyfaddas i dyfu coed siwgr.

Mawr ydoedd syndod y trigolion wrth weled yr agerlong, a dymunent wybod a oedd hi wedi cael ei thori allan o'r un goeden! Ebrwydded y deallent garedigrwydd y bobl wynion, yr oeddynt yn barod i fasnachu yn y modd hwylusaf. Dygent gawelleidiau o adar, reis, a grawn, a rhedent gyda glan yr afon gan; lefain "Malonda!" "Malonda!" sef nwyddau ar werth.

Yn Mazavo, yr oedd y bobl mewn rhyfel â gwrthgiliwr bradwrus o'r enw Bouga, ond croesawasant yr ymwelwyr a chymeradwyasant eu hamcanion. Oddeutu y pwynt hwn cafwyd y golygfeydd yn dirfawr wella. Yr oedd trumau coediog Shupanga, a llu o fryniau amryliw yn ymgodi yn y pellder. Islaw Mazaro, ni wneir unrhyw drafnidiaeth ar y Zambesi. Y mae ffrwd annibynol ar yr afon hon, ar hyd pa un y cerir yn mlaen y drafnidiaeth rhwng Kilmane ar y Mosambique, a Sena a Tette, yn y canolbarth. Ymarllwysa y ffrwd fechan hon i'r Keva Keva, neu Ason Kilmane. Yn Mazaro, dadlwythid y cychod a ddeuent i lawr o Tette, a chludid eu llwythi chwe' milldir dros y tir i gainc-afon Kilmane.

Ar ochr ddeheuol y Zambesi, y mae llwythau Zulu yn yr oruchaf, tra y mae deiliaid Portugaidd yn meddiannu y tir ar yr ochr aswy, Trwy dalu symiau arbenig yn