Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adnoddau eu gwlad, i attal y Gaethfasnach, ac yn gyfnewid am eu gwaith yn ymwrthod â'r fasnach ffiaidd mewn cnawd dynol, i gynnyg iddynt foddion i ymgyfoethogi trwy ddilyn trafnidiaeth gyfreithlon. Awdurdodwyd y genadaeth oruchel hon gan Iarll Clarendon, yr hwn oedd ar y pryd yn Brif Ysgrifenydd Tramor, ac o dan ei nawddogaeth garedig ef cychwynodd yr ymgyrch o Frydain am yr afon Zambesi ar y 10fed o Fawrth, 1858. Cynnwysai y cwmni ymgyrchol y Dr. David Livingstone, arweinydd; Mr Charles Livingstone, cynnorthwywr; Mr. Francis Skead, o'r Llynges Freninol, peiriannydd; Dr. John Kirk, llysieuydd; Mr. Richard Thornton, daearegydd; Mr. Baines, arlunydd; y Llywiadur Bendingfield, R.N., hwyliedydd. Yn mhlith darpariadau Dr. Livingstone yr oedd ystwymer fechan, yr hon a gludwyd yn dair rhan ar fwrdd y llong Pearl; ac ar gyrhaeddiad y cwmni at enau y Zambesi, cysylltwyd gwahanol ranau yr agerlong fechan, a chyda chynnorthwy y llestr hon dechreuwyd y gwaith archwiliadol. Galwyd y llong fechan ar yr enw a roddasid i Mrs. Livingstone gan y Makololo, sef "Ma-Robert." Y mae i'r Zambesi, gyda glanau yr hon y teithiasai Livingstone gymaint yn y canolbarth, bedair arllwysfa, sef y Milambe, y Kongone, y Luabo, a'r Timbwe.

Yn ystod y tymmor gwlawog, yr hwn a ddygwydd yn flynyddol ar y glanau hyn o Ebrill hyd Fai, pryd y bydd yr afon yn gorlifo ei glenydd, ceir camlas naturiol yn rhedeg yn gyfochrog a'r glenydd, a chan fod y gamlas yn amgylchedig gan gorsydd anhygyrch, ffurfia ffordd hwylus i'r trafnidwyr gario yn mlaen eu masnach felldigedig mewn caethion. Wrth fyned i fyny cangen Kongone o'r afon fawr, y cwmni a ganfyddasant dorlenydd y gangen hono am ugain milldir o ffordd yn orchuddiedig gan brysglwyni anhydraidd. Gwelid llwyni o redyn a phalmwydd yn tyfu o dan gysgodion cangenau crynedig coed uchel a phreiffion; ac yma a thraw gwelid palmwydden dalgref yn codi ei phen yn Ogyfuwch â'r prif-goed. Darganfyddwyd hefyd goed gwafa a lemon, yn nghyda math o balmwydd a ddefnyddir i wneyd cydau siwgr yn Mauritius. Yr oedd y