Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd di-ildio gyda pha un yr ymwthiodd yn mlaen, o gam i gam, ar draws Affrica, o'r Mor Werydd i'r Mor Indiaidd, heb anghofio y duwioldeb trwyadl a'i cynnaliodd yn ei holl dreialon.

Gwelsom ef yn treiddio i wyllt-diroedd Cyfandir anhysbys, ac mewn pellafoedd anhygyrch, lle yr oedd natur yn holl wylltineb ei morwyndod cyntefig, nyni a'i. gwelsom ef, gyda'i Feibl yn ei law, yn gweithio gyda gwroldeb urddasol y gwir arwr. Nyni a welsom ynddo yr holl nodweddau sydd yn ardderchogi y gwir Gristion. Ynddo ef ni chaed dim o'r gwag-rwysg a amgylcha y dyn a ddirprwyir i ddinystrio ei gyd-ddynion gyda'r dryll a'r cledd. Cenad hedd oedd ef, yn dwyn Efengyl y tangnefedd i'r Pagan; dyn ydoedd o agwedd syml a gwisg dlodaidd; dyn a gablwyd ac a wrthodwyd gan ei gydwladwyr gwynion yn Magaliesberg, ac, a dlodwyd gan eu gelyniaeth, eu trachwant, a'u balchder hwy—yr Ymchwiliwr Cenadol duwiol a llariaidd! Pan y cyrhaeddodd i Loegr wedi ei lafur blin a'i ymdrech hirfaith gyda Phaganiaeth, croesawyd ef gan y byd gwareiddiedig gyda pharch purach a mwy gwirioneddol nag a roddwyd erioed i ddynion o uwch ond llai eu gwerth a'u teilyngdod.

PENNOD IV

Y DIRPRWYWR DROS Y LLYWODRAETH A'R ARCHWILIWR DYNGAROL

GWEDI cyhoeddi ei lyfr yn cynnwys "Hanęs ei Deithiau Cenadol," dirprwywyd y Dr. Livingstone i ddychwel at yr afon Zambesi—yn yr hon yr enynasid dyddordeb mawr gan ei ddarganfyddiadau e—mewn trefn i eangu y wybodaeth am y parthau trwy ba rai y rhedai yr afon fawr, ac i'r dyben o hyrwyddo trafnidaeth. Cyfarwyddwyd ef i drefnu cwmni archwiliadol cynwysedig o wyddonwyr, i gasglu gwybodaeth gywir am ddaearyddiaeth ac adnoddau mewnol ac amaethyddol Canolbarth a Deheubarth Affrica er budd a lles cyfunol Prydain a'r llwythau a geid yn y parthau hyny yn awyddus i gychwyn trafnidiaeth gyda chenedl wareiddedig. Dymunid arno annog a dysgu y brodorion i ddadblygu