Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy rengau eu gorymdaith. Yr oedd Livingstone ar y pryd yn marchogaeth ych, yr hwn a garlamodd ymaith gydag ef. Pan allodd y Cenadwr edrych drach ei gefn er gweled pa fodd yr ymdarawai ei gyd-deithwyr, efe a welodd un dyn anffodus wedi ei luchio i fyny i'r awyr oddeutu pum' troedfedd uwchlaw cyrn bual gorphwyllog, o ochrau yr hwn y pistylliai gwaed. Pan ymosodwyd ar rengau, y cwmni gan y bualod. ymddengys ddarfod i'r dyn anffodus ddodi ei faich i lawr a thrywanu un bual yn ei ochr, yr hwn a drodd arno yn y fan ac a'i taflodd gyda'i gyrn i'r awyr fel pryf. Er iddo dderbyn cryn niwed trwy y tafliad a'r codwm, eto efe a wellhaodd gyda'r fath gyflymdra fel yr oedd yn alluog i hela yn mhen yr wythnos.

Gwedi cyfarfod â llawer o anturiaethau cyffrous, a gwneyd llu o ddarganfyddiadau dyddorol, cyrhaeddodd y Parchedig Dr. D. Livingstone a'i osgordd i Killmane, ar yr 20fed o Fai, 1856. Yr oedd cyfnod o agos i bedair blynedd wedi myned heibio er ys pan yr ymadawsai efe o Dref y Penrhyn, Penrhyn Gobaith Da. Gan ymddiried ei osgorddlu i ofal cyfeillion caredig yn nhref Bortuguaidd Tette, cychwynodd Livingstone o Killmane ar y 12fed o Orphenaf, 1856, i Mauritius, lle y'i derbyniwyd yn garedig a llettygar gan yr Is-Gadfridog C. M. Hay. Gwedi aros yno dros ychydig amser i'r dyben o gryfhau ei iechyd, efe a hwyliodd tua chartref, a chafodd olwg ar ei "Anwyl Hen Loegr" ar yr 12fed o Ragfyr yr un flwyddyn, ar ol absennoldeb o un mlynedd ar bymtheg. Dychwelodd i'w wlad gyda chalon orlawn o ddiolchgarwch am y nawdd Dwyfol a fuasai yn amddiffyn a chysgod iddo yn nghyflawniad ei lafur mawr a'i deithiau meithion, a chan weddïo am i'w fywyd dyfodol gael ei gyflwyno yn ostyngedig i wasanaeth Rhoddwr pob daioni.

Goddeferi ni obeithio fod y bennod uchod yn datguddio ysbryd yr Ymchwiliwr Cenadol, ac y gellir gweled trwyddi y llareidd-dra duwiolfrydig gyda pha un y dygodd efe flinderau difrif ei fywyd yn Affrica, y gwroldeb gyda pha un y daeth drwy bob rhwystrau ac anffodion, ac y dyoddefodd bob cyni ac angenoctyd, a'r,