Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Ymchwiliwr Cenadol roddi prawf arni trwy deithio i lawr yr afon. Ar y 25ain o Hydref, dechreuodd Livingstone barotoi. Mam Sekeletu a ddarparodd iddo gydiad o gnau daear, a gwragedd Makololoaidd ereill a falasant rawn Ind yn flawd, gan barotoi yr ymborth goreu a allent gogyfer â'r daith. Ar y 5ed o'r mis dilynol, cychwynwyd y daith i'r Dwyreinfor, pryd yr aeth Sekeletu a dau gant o'r Makololo i hebrwng Livingstone gan gymeryd gyda hwy amryw greaduriaid defnyddiol i'w lladd a'u bwyta ar y ffordd. Dylid cofio yn y fan hon fod Livingstone er ys amser maith wedi treulio yr oll o'r dillad a'r nwyddau a ddygasai gydag ef o Benrhyn Gobaith Da, ac mai y Makololo a ddygasant dreuliau ei daith i Loanda, o For y Gorllewin, ac mai hwynthwy hefyd a ymgymerasant â dwyn treuliau y daith bresennol i'r Dwyreinfor. Gan mai dyma yr esiampl gyntaf a gofnodwyd erioed o lwyth barbaraidd yn awdurdodi ac yn cyflogi dyn gwyn i wneyd ymchwiliadau, gellir derbyn hyn fel prawf pendant o alluoedd rhyfeddol Livingstone i ddenu a pherswadio, neu ynte fod y Makololo lawer yn uwchraddol i unrhyw lwyth arall a ddarganfyddwyd erioed gan Ewropeaid yn Affrica. Hawdd ydyw i ni, y rhai ydym hysbys o'r anhawsdra i gael gan y Llywodraeth danysgrifio arian tuagat ddwyn traul archwiliadau Arctaidd neu Affricaidd, gyflawn brisio y dystiolaeth hon o awydd y Makololo am fwynhau cynnydd gwareiddiad. Sekeletu a ddilynodd Livingstone ar ei daith i'r Dwyrain am gryn bellder, ac wedi hyny a ddychwelodd i Linyanti, gan adael i'r Cenadwr fyned yn mlaen yn nghwmni gosgordd o'r llwyth.

Yn nghanol mis Tachwedd, yr archwilwyr a ddarganfyddasant raiadrau ardderchog Mosiatunya, i ba rai y rhoddodd Livingstone yr enw Rhaiadrau Victoria. Yr oedd y ddwfrddisgynfa odidog yma yn fil o droedfeddi o led, ac yn gan' troedfedd o uchder, ac yn cael ei ffurfio gan yr Afon Zambesi. Yn Mazanzwe, pan oedd y cwmni wedi gadael yr afon ac yn teithio dros y tir, achoswyd iddynt ddirfawr flinder a chyffro am amser gan haid o Fualod (buffaloes), y rhai a ruthrasant