Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arllwys eu bendithion ar ei ben, gosodent eu danteithion penaf ger ei fron, eu hanifeiliaid mwyaf pasgedig a laddasant er anrhydedd iddo, a dygent flaenffrwyth eu tiroedd i'w bwyta yn y gwleddoedd a gynnalient i ddathlu ei ddychweliad a dangos eu diolgarwch am ei garedigrwydd i'r Makololo. Yn nhref fawr Naliele, daeth torf luosog i wrando ar Livingstone yn llefaru ar ei genadaeth, ac am yr Hwn yr oedd efe a'u cydwladwyr yn ddyledus iddo am ddiogeliad eu bywydau a'u dychweliad hapus.

Fel yr oedd efe yn disgyn yr Afon Leeambye o Naliele mewn corwgl, tarawyd blaen y cwch gan afon-farch (hippopotamus) anferth. i Cyfododd un ran o'r bâd yn gwbl o'r dwfr, a bu agos iddo ei lwyr ddymchwel. Gan rym y tarawiad, taflwyd un o'r Makololo i'r dwfr, ond Livingstone a'r gweddill o'i gwmni a lwyddasant i neidio i'r lan. Yn ffodus, ni ddigwyddodd gwaeth niwed na throchiad lled dda i ddynion a nwyddau. Yn Medi, 1855, cyrhaeddodd y cwmni i Linyanti; a galwyd cyfarfod mawr ac ysblenydd o'r Makololo i dderbyn eu hadroddiad a'r anrhegion a' ddygent gyda hwy oddiwrth bobl garedig Loanda. Ymddangosai y Penaeth Sekeletu yn y wisg filwrol (gwisg Milwriad) a anfonasid iddo, ac er i Livingstone draddodi pregeth adeiladol ar yr achlysur, eto gorfodir y Cenadwr i addef fod dillad gwychion Sekeletu wedi derbyn mwy o sylw na'r bregeth. Cafodd yr adroddiad a dderbyniodd llwyth Makololo gan eu cydwladwyr am y manteision o feddu cymundeb masnachol gyda glan y mor effaith mor ffafriol, fel y cynnygiwyd fod i'r holl lwyth ymfudo i Ddyffryn Barotse, mewn trefn i fod yn agosach i'r farchnad, and Sekeletu a safodd i fyny gan awgrymu y priodoldeb iddynt aros lle yr oeddynt hyd ddychweliad Livingstone o Loegr gyda "Ma-Robert," ei wraig.

Gwedi gweled pa mor anymarferol oedd ceisio sefydlu cludiaeth gyda cherbydau a gwageni rhwng y Canolbarth a'r Morlan Gorllewinol, dechreuodd Livingstone efrydu pa ffordd a ddewisai i gyrhaedd yr Arfor Dwyreiniol. Gan fod yr Afon Zambesi yn ymddangos yn fwy manteisiol nag unrhyw gwrs arall penderfynodd