Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi bod am gydol chwe' mis yn gorfod cysgu ar y ddaear; a gellir dychmygu mai mawr oedd mwynhad y dyn claf a blinedig pan y cafodd y rhagorfraint foethus o gysgu mewn gwely da. Rhoddwyd i Livingstone a'i weision Makololoaidd lawer o grosawa charedigrwydd gan foneddigion Seisnig a Phortuguaidd yn Loanda. Ar y cyntaf, taer erfyniwyd arno fyned i St. Helena neu i Loegr i ymofyn adnewyddiad nerth, ond nis gallai y teithiwr cenadol dderbyn y cynnygiad gludiad rhad, gan fod gofal ei gyfeillion Makololoaidd arno; ac nid oedd wiw meddwl am dori gair y dyn gwyn, er fod diogeliad ei iechyd yn gofalu am hyny. Cafodd lledneisrwydd a charedigrwydd swyddogion y Llynges Seisnig oedd yn Loanda yr effaith fwyaf dymunol ar feddyliau y Makololoiaid, a bu hyny yn foddion i ddyrchafu Livingstone yn uwch yn eu meddyliau. Gwedi i Livingstone gyhoeddi ychydig o hanes ei daith yn newyddiaduron Loanda, ac egluro ei amcanion yn dyfod a'r Makololo yno; ac ar awgrym yr Esgob Portuguaidd, darfu i Lywodraeth a marsiandwyr Loanda ymuno i wneyd anrhegion gwerthfawr a phrydterth i'r Penaeth Sekeletu, yn gynnwysedig o wisg gyflawn milwriad a march; a rhoddasant hefyd wisg i bob un o osgorddlu brodorol Livingstone.

Ar yr 20fed o Fedi, ac iechyd Livingstone wedi ei gyflawn adfer, ac efe a'i osgordd yn llwythog o anrhegion, hwy a brynasant gyflenwadau o frethyn cotwm, gwelyau, saethau, &c., a chychwynasant eu siwrnai ddychweliadol i Linyanti. Yn Shinte, derbyniwyd y teithwyr dychweledig gyda chroesawiad rhwysgfawr, a chymerodd Livingstone ofal i argraffu ar feddwl y, Penaeth y manteision a ddeillient iddo ef a'i bobl trwy fasnachu a'r Glanau Gorllewinol. Ymbiliodd a'r Penaeth hefyd i wrthod gwerthiant caethion, gan ddadleu y byddai parhad y fasnach mewn dynion yn rhwym o wanychu ei allu, a'i wneyd ef ei hun, mewn amser, yn ddarostyngedig i ryw Benaeth arall.

Gellir dyweyd fod taith ddychweliadot Livingstone trwy wlad y Makololo yn orymdaith fuddugoliaethus ac ardderchog. Yr oedd miloedd o bobl yn mhob man yn