Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Bydded ein taith gyda'r dyn gwyn yn llwyddiannus."
"Trenged ei elynion, a gwneler plant Nake yn gyfoethog.
"Bydded iddo gael cyflawnder o gig ar ei daith!"


Gwedi cyrhaedd at ymuniad y Leeba gyda'r Leeambye, yr ymchwylwyr a esgynasant yr afon gyntaf a nodwyd. Yma yr oedd coedwigoedd trwchus yn gorchuddio glanau yr afon. Gwelid planigion mawrion yn ymglymu am ac yn dringo i fyny hyd goed aruthr o breiffion. Er gwaethaf y gwlaw a fynych ddisgynai, a'r dwymyn yr oedd Livingstone weithian yn ddarostyngedig iddi yn aml, eto yr oedd y golygfeydd coediog, &c., yn peri iddo lawer o hyfrydwch, ar gyfrif y gwahaniaeth tarawiadol oedd rhyngddynt a noethni hagr Anialwch Kalahari, yr hwn a adawsai effaith annileadwy ar feddwl y cenadwr. Yn Shinte, lle y cyfarfu y teithwyr a derbyniad ardderchog, hwy a adawsant eu cychod, ac o hyny allan teithiasant ar draws y tir, gan glywed am lwythau lluosog a phenaethiaid nerthol ar y deau iddynt, y Cazembe fawr i'r gogledd-ddwyrain, a'r Matiamvo i'r gogledd. Yn mis Mawrth, Livingstone a'i gwmni a groesasant y dyfrgelloedd aruthur sydd yn gwahanu yr afonydd deheuol a gogleddol.

Gwedi disgyn i'r gwastadeddau o gylch Loanda, y Makololo, cynnrychiolwyr plant didwyll Canolbarth Affrica, a welsant y mor mawr am y waith gyntaf erioed, yr olwg ar ba un a enynodd ynddynt deimladau rhyfedd. Fel hyn y desgrifiasant hwy eu hunain yr amgylchiad :—"Nyni a ymdeithasom yn mlaen gyda'n tad (Livingstone) gan gredu yr hyn a ddywedasai yr hynafiaid, sef nad oes derfyn i'r byd, ond wele y byd yn dyweyd wrthym yn sydyn Dyma fi wedi darfod! nid oes ychwanego honof fi." Yr oeddynt hwy wedi credu yn wastadol fod y byd yn un gwastadedd diderfyn.

Ar yr 31ain o Fai, y cwmni blinedig a gyrhaeddasant dref Bortuguaidd San Paulo de Loanda, ar lan y Mor Werydd. Yr oedd Livingstone ar y pryd yn dyoddef oddiwrth ymosodiad peryglus o'r gwaedglwyf, Derbyniwyd ef a breichiau agored gan Mr. Gabriel, y Dirprwywr Prydeinig er attal y gaethfasnach. Yr oedd efe