Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hono hwy a ddarganfyddasant arllwysiad y. Leeba, afon Lunda; i'r brif afon, neu Lieambye. Yn Libonta, cymer yr afon yr enw Kabompo. Y mae ei lled oddeutu tri chant o latheni, tra nad oedd lled y Leeba ond dau gant a haner o latheni. Ychydig yn uwch i fyny, cafwyd y Loeti, yr hon a redai o'r gorllewin trwy wastadedd Mango, yn ymuno â'r Lieambye. Gwedi esgyn y Zambesi cybelled a hyn, ac heb weled unrhyw randir iachus i ffurfio sefydliad ar ei glan o fewn tiriogaeth y Makololo, penderfynodd Livingstone gwblhau yr ail ran o'i gynllun, sef treiddio hyd Loana, ar y Mor-lan Gorllewinol, i'r dyben o ddarganfod ffordd hyd pa un y gallai y Makololo a llwythau mewn-dirol ereill fwynhau y fantais o feddu cymundeb masnachol gyda'r bobl a breswylient lanau y mor. I'r perwyl hwn, efe a gydsyniodd i ddychwel i Linyanti, i ba le y cyrhaeddodd gwedi absennoldeb o naw wythnos. Wedi cyrhaedd Linyanti, eglurodd Livingstone ei ail fwriad i Sekeletu, a daeth ei gynllun i fod yn bwnc dadl frwd yn mhlith yr henuriaid, llawer o ba rai a wrthwynebent y fath feddylddrychau dyeithr a beiddgar. Hwy a lefent yn y Cynghor fod ar y dyn gwyn eisieu "bwrw ymaith y Penaeth ieuanc", a haerent "fod sawyr gwaed ar ei ddillad eisoes;" ond yr oedd llais y mwyafrif o blaid Livingstone, ac o ganlyniad dewisiwyd cwmni o saith ar hugain o wyr ieuainc y Makololo i'w ddilyn ef i'r Gorllewin. Enynwyd tueddiadau masnachol y Makololo gan y rhagolwg am agoriad trafnidiaeth uniongyrchol rhyngddynt a'r dynion gwynion oddiar y mor; ac yr oedd y gogwydd yma o'r eiddynt yn cyd-daro âg argyhoeddiad Livingstone nas gellid dwyn oddiamgylch ddyrchafiad parhaus unhyw lwyth deb gysylltu trafnidiaeth â dysgeidiaeth yr efengyl.

Ar yr 11eg o Dachwedd, 1853, cychwynodd y Cenadwr parchedig o Linyanti, yn cael ei ddilyn gan Sekeletu a'i brif ddynion, i hwylio ar y Chobe. Fel yr elai y cwmni i fyny i'r afon, y Makololoaid, yn ngwyddfod eu Penaeth, a dyngaşant ffyddlondeb i'r dyn gwyn, gan ymrwymo i'w wasanaethu a'u holl egni, ac i ufuddhau iddo yn mhob peth. Mynych y canent:—