Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu derbyn yn ol, rhoddodd Livingstone yr ifori i fasnachydd Negroaidd o'r enw George Fleming. Y dyn hwn, wedi cael ei lwytho a rhoddion Livingstone, a ad-dalodd garedigrwydd y Cenadwr ar ei ddychweliad i'r Penrhyn, trwy gyhoeddi ei hun fel gwir ddarganfyddwr Llyn Ngami! Gwedi aros yn Linyanti am fis ymadawodd y Cenadwr, yn cael ei osgorddio gan Sekeletu a rhyfelwyr y Makololo. Y Penaeth a Livingstone a gyd-gysgent mewn pabell fechan, a chydgyfranogent o ystor y dyn gwyn o siwgr, cacenau, te, a choffi. Tybiai ei Sekeletu fod yn canfod uwchraddoldeb natur y dyn gwyn o'i gydmaru â'r Portuguaid, yn rhagoroldeb ei goffi a'i gacenau. Ebe efe wrth Livingstone:—Myfi a wn eich bod chwi yn fy ngharu, oherwydd y mae fy nghalon yn gwresogi wrth fwyta yr ymborth a roddwch i mi. Nid ydyw blas te a choffi y trafnidwyr haner cystal a'r eiddo chwi, am eu bod hwy yn caru, fy ifori, ac nid myfi fy hun.

Gwedi cyrhaedd Sesheke, y Makololo a ymdrechasant gael ychwaneg o gwrwglau i'r dyben o wneyd archwiliadau pellach ar y Zambesi. Adnabyddir yr afon ardderchog hon o dan wahanol enwau, megys yr Afon Fawr, y Juambeji Ambesi, Ajimbesi, a'r Zambesi, &c., yn ol y gwahanol ieithoedd a siaredir gan y Makalolo a'u cyd-lwythau. O'r diwedd, casglwyd llynges o 33ain o gwrwglau, a dechreuwyd y daith i fyny i'r afon.

O Linyanti i Sesheki, yr oedd y wlad yn iseldir gwastad, ac yn ddarostyngedig i orlifiadau blynyddol yn ystod y tymmor gwlawog. Ymgyfyd yr afon ar brydiau ugain troedfedd uwchlaw ei harwyneb rheolaidd. Mewn rhai lleoedd, ceid y Leeabmye, neu y Zambesi, heb fod uwchlaw un droedfedd o ddyfnder. Ceid ynysoedd o gryn faintioli yn brithio ei gwyneb llydan. Gwelid cyflawnder o wyllt-helwriaeth gyda'i glanau, a cheid ar hyd-ddi amrywiaeth o ddwfr-adar. Pan gyrhaeddodd y cwmni i Gonge, hwy a ddaethant at raiadr yn meddu disgynfa o ugain troedfedd; ac fe y'u gorfodwyd i gario eu cychod ar hyd y tir am oddeutu milldir. Gwedi ail gychwyn eu taith ar yr afon, hwy a gyrhaeddasant i Nalieh, tref fawr a hardd, ac uwchlaw i'r dref