Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ddilyn. Heblaw hyn, pwysodd y Penaeth ieuanc ar Livingstone fynegi iddo ef pa beth bynag oedd arno eisieu, gan ddywedyd y rhoddid iddo gyda pharodrwydd llawen unrhyw beth oedd i'w gael oddifewn neu oddiallan i'r dref ebrwydded y gofynai am dano. Y Cenadwr duwiol a atebodd ac a ddywedodd mai ei unig ddymuniad ef ydoedd dyrchafu y Penaeth a'i bobl i fod yn Gristionogion; ond y Penaeth ieuanc a ddywedodd nad oedd ef yn ewyllysio dysgu darllen y Beibl rhag i'w galon gael ei chyfnewid, ac iddo yntau ddyfod i ymfoddloni ar un wraig, fel y proselyt Sechele, Penaeth y Bakwainiaid. Ar hyn, cynnygiodd Livingstone fod iddo ddysgu y Makololo i ddarllen. Ni dderbyniodd y cynnygiad hwn nemawr fwy o ffafr na'r cyntaf; ond уn mhen ychydig wythnosau drachefn, darfu i Motibe, tad yn nghyfraith y Penaeth, ac amryw ereill, benderfynu ceisio dysgu y gelfyddyd ddyrus a chyfriniol o ddarllen y Llyfr, i'r hyn ni ddangosai y Penaeth ieuanc wrthwynebiad. Gwedi ymdrech amyneddgar i feistroli llythryenau annirnadwy yr iaith Saesneg, dywedodd Motibe wrth Sekeletu nad oedd dim yn ddrwg yn y gelfyddyd, ac y gallai anturio dysgu darllen y Llyfr heb i'r un niwaid mawr ddeilliaw o hyny. Gan fod y cynghor hwn yn dyfod oddiwrth Motibe, colonogwyd Sekeletu a'i gymdeithion ieuainc i geisio cyflawni y gwaith anhawdd; a chyn pen amser maith, yr oedd yno amryw yn alluog i adrodd yr egwyddor o'i dechreu i'w diwedd; ond cyn i lawer iawn o gynnydd gymeryd lle yn eu haddysg, yr oedd Livingstone ar ei daith i San Paulo de Loanda, ar y Morlan Gorllewinol.

Un o'r pethau y penderfynodd y Cenadwr eu gofyn gan Benaeth caredig y Makololo oedd cwrwgl i'w gymeryd i fyny y Zambesi. Rhoddodd Sekeletu iddo nid yn unig gwrwgl, ond mynai gael ganddo dderbyn deg dusk, sef oddeutu saith gan' pwys o ifori, yr hyn a fuasai yn werth 170p. yn marchnad y Penrhyn. Er nad oedd Livingstone yn derbyn ar y pryd ond y cyflog cwrtais o gan' punt y flwyddyn, eto efe a wrthododd y cynnygiad haelionus hwn yn y modd mwyaf penderfynol. Gan fod y Penaeth yr un mor benderfynol yn gwrthod