Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holl nwyddau. Llosgasant holl eiddo yr helwyr (Mr. W. F. Webb, o Newstead Abbey, Mr. W. C. Oswell, a boneddigion Seisnig ereill), sef yr eiddo oeddynt wedi ystorio yn nhy Livingstone tra y byddent hwy yn hela yn y gogledd." Clybu Livingstone hefyd am y cableddau a ledaenasid yn ei erbyn ef, y rhai a gawsant y fath effaith ar feddyliau y bobl, fel yr analluogwyd ef am amryw fisoedd i gario allan ei fwriad o fyned i Linyanti. Pa fodd bynnag, ar yr 20fed o Dachwedd, 1852, gwedi cael ohono dri o weision ewyllysgar i'w ddilyn, ymadawodd Livingstone am y waith olaf o Kuruman, gan amgylchu Anialwch Kalahari, a gadael y Boeriaid i'w dichellion a'ų tynged. Ar y 15fed o Ionawr, gwedi ymweled a thref Sechele, a bod am bum' diwrnod cyfan yn llygad-dyst o ddyoddefiadau arswydus y Bakwainiaid truain, dymunodd Livingstone hir ffarwel i'r dosbarth anffodus, ac aeth yn mlaen yn benderfynol ar ei daith fawr i Linyanti, i'r hwn le y cyrhaeddodd yn mhen pedwar mis. Holl boblogaeth prif ddinas y Malkololo, yn rhifo chwech neu saith mil, a ddaethant allan i groesawu y dyn gwyn, ac yn enwedig i weled y fath ryfeddod a gwageni symudol.

Llywodraethai Pennaeth newydd ar lwyth y Makololo, Mamochisone, merch y Pennath a'r rhyfelwr enwog Sebituane, a deimlodd yn ei chalon fenywaidd nad oedd hi yn ei lle priodol megys pennaethes llwyth dewr fel y Makololo. Teimlodd y dewisai hi yn hytrach fod yn briod dyn a allai garu, ac i'r hwn y gallai gyflawni dyledswyddau gwraig, ac oherwydd hyny hi a ddymunodd ar henuriaid y llwyth i dderbyn Sekeletu, ei brawd deunaw mlwydd oed, fel eu Penaeth. Parhaodd y ddadl yn mhlith yr henuriaid am dri diwrnod, ond trwy ei dylanwad mawr, llwyddodd Mamochisane yn y diwedd i ddenu y Patriarchiaid a'r Physygwyr i dderbyn llywodraeth Sekeletu.

Gwedi i'r dyn ieuanc gael ei sefydlu yn ddiogel mewn awdurdod, Livingstone, gan feunyddiol ystyried ei ddyledswyddau a'i genadaeth, a gynnygiodd ar fod i ddynt esgyn y Zambesi. Cydsyniodd Sekeletu â syniadau y dyn gwyn ar unwaith, ac o'i wirfodd cynnygiodd