Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

berffeithio yn y gelfyddyd o deithio, fod ei gyfansoddiad megys wedi ei haiarneiddio a'i gyfaddasu i ddal pob caledwaith, a'n bod ninau ar fedr derbyn hyfforddiant a goleuni mewn perthynas i gyfandir a oedd hyd yma braidd yn gwbl anhysbys. Ysgrifena yn arddull bwysig dyn o awdurdod wyddonol uchel, fel pe buasai mawredd ei daith ardderchog wedi urddasoli ei natur. Y mae y bummed bennod o'i lyfr, yn mha un y ceir crynodeb o'r wybodaeth a gasglai efe gyda'r fath amynedd ac ymroddiad, yn cynnwys desgrifiad eang a meistrolgar o'r holl Gyfandir Affricanaidd. Nis gall y darllenydd ychwaith lai na theimlo ei fod yntau yn cael ei urddasoli gan y rhwyddineb gyda pha un y galluogir ef megys ar un gipdrem i amgyffred natur a nodwedd y fath gyfran eang o'r ddaear, yr hon oedd mor ddiweddar yn anadnabyddus. Desgrifia gefndir y Penrhyn mewn dull nodedig o darawiadol. Dywed fod y rhandir yma yn ffurfio tri dosbarth mawreddog a gwahạnol o ran hinsawdd, arwynebedd, a phoblogaeth. Y dosbarth dwyreiniol yn fynyddig a choediog, yn cynnwys llawer o goed ar ba rai nis gallai na thân na sychder effeithio; a desgrifia y trigolion fel pobl wrol, egnïol, ddeallus, yn dal, cyhyrog, a chyttrym eu gwneuthuriad. Yr ail ddosbarth a ddesgrifir fel iseldir eang, difynyddoedd, a'r trigolion, er yn hanu o'r un gwehelyth gwreiddiol a phreswylwyr y dosbarth cyntaf, eto yn israddol i'r, Caffreriaid o ran dadblygiad eu cyrff, ac yn llawn o lwfrdra ofnus. Y mae'r dosbarth gorllewinol yn iselach a gwastatach fyth, ac yn cynnwys Anialwch Kalahari. Y mae ei sylwadau cyffredinol ar y wlad yn profi mai ychydig ddynion allesid gael mor gymhwys i fod yn genadon a darganfyddwyr.

Pan gyrhaeddodd Livingstone i Kuruman, efe a glybu am y cyfnewidiadau oeddynt wedi cymeryd lle yn sefydliad dymunol a llwyddiannus Kolobeng. Ymosodasid ar Sechele, Penaeth y Bakwainiaid, gan y Boeriaid. Mewn llythyr a anfonasai Sechele gyda'i wraig Masabele i'r Dr. Moffat, dywedid:—"Y Boeriaid a ladratasant yr holl anifeiliaid a'r nwyddau perthynol i'r Bakwainiaid, ac yspeiliasant dy Livingstone, gan gymeryd ymaith ei