Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod raid iddo gyflawni yn llythyrenol orchymynion ei Feistr Nefol—fod raid iddo ddyddanu calonau y llwythau Paganaidd gyda gwirioneddau cysurlawn yr Efengyl; a chan ei fod wedi cymeryd arno Groes Crist, credai fod raid iddo ddyoddef yr adfyd a'r caledi cysylltiedig â'i alwedigaeth gysegredig gyda phenderfyniad ac ymroddiad.

Deuddeng mlynedd o alltudiaeth yn Affrica! Fyred y gellir eu henwi! Eto anhawdd sylweddoli y gwirionedd fod dyn a feddai galon mor syml a meddwl mor dduwiolfrydig—dyn boddlawn i ddilyn ôl troed ei Waredwr gyda mynwes mor lawn o gariad mawreddog tuag at blant dirmygedig Affrica, wedi byw yn yr oes falch ac ariangarol hon! Nyni a ddylem ymfalchio yn wir am y gallwn ei hawlio fel un perthynol i'r ganrif bresennol. Nyni a ddylem fod yn ddiolchgar i'w goffadwriaeth am ein cynnysgaethu âg un esiampl berffaith o Genadwr, i'w throsglwyddo, fel un o nodweddion tarawiadol ein hoes, i fod yn wrthddrych edmygedd cenedlaethau a ddeuant yn y dyfodol pell, ac yn ffynnonell gogoniant i ni ein hunain.

PENNOD III

YR YMCHWILIWR CENADOL

Rhaid i ni yn awr ddilyn camrau Livingstone fel Ymchwiliwr Cenadol o Benrhyn Gobaith Da hyd i Linyanti, yn ngwlad y Makololo, ac oddiyno drachefn i'r gorllewin hyd y Mor Werydd, ac ar hyd cwrs y Zambesi i Kilmane, ar lan y Mor Indiaidd. Cawn brofion amlwg ei fod yn adrodd hanes y daith hon allan o gofnodlyfr a gadwesid ganddo yn fanwl, a'i fod ef ei hun yn teimlo ddarfod iddo gyflawni gwaith teilwng i'w gofrestru yn mhlith yr anturiaethau archwiliadol ardderchocaf a wnaed erioed yn Affrica. Edrydd i ni fanylion y daith yn y modd mwyaf gofalus, ac y mae ei sylwadau a'i nodiadau yn llafurfawr a manylgraff

Teimlwn wrth ddechreu darllen y llyfr fod profiad yr awdwr am un mlynedd ar ddeg yn Affrica Ddeheuol wedi ei