Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn orchuddedig â phalmwydd nyphenaidd a choedwigoedd mawrion. Yn ystod y tymmor gwlyb, gorlifir llawer o'r wlad; ac hyd yn nod yn ystod y tymmor sych, ceir ynddi barthau corslyd a thonenog, y rhai, ar gyfrif eu bod yn anhydraidd, a roddant i'r Malkololoiaid amddiffyniad rhag eu gelynion. Hyd ddyfodiad masnachwyr Portuguaidd i'r parthau hyn, nid oedd y Malkaloloiaid syml erioed wedi clywed son am y fath beth a masnachu mewn cnawd dynol, ac er iddynt gael eu temtio i ymadael a nifer o fechgyn pedair ar ddeg oed yn gyfnewid am ddrylliau, eto yr oeddynt yn cashau y fasnach gyda chasineb angeroddol.

Gan nad oedd obaith iddo allu cael gan y Boeriaid ganiatau i'r brodorion dderbyn hyfforddiant mewn modd heddychol, penderfynodd Livingstone ddanfon ei deulu i Benrhyn Gobaith-Da; ac wedi eu gweled hwy yn hwylio ymaith am Frydain, ei gynllun oedd dychwel ei hunan i diriogaeth y Makalolo, i ymofyn rhyw lanerch iachus lle gellid ffurfio sefydliad crefyddol. Cynlluniai hefyd agor ffordd uniongyrchol o'r cyfryw sefydliad i arfordir dwyreiniol neu orllewinol Affrica, mewn trefn i sicrhau y fantais o gyfrwng cymmundeb â glan y mor. Yn gyflawn o'r penderfyniad gwrolfrydig ac ardderchog hwn, efe a gychwynodd i gyfeiriad y Penrhyn, lle y cyrhaeddodd yn Ebrill, 1852, gwedi bod am un mlynedd ar ddeg yn gwbl allan o gyrhaedd gwareiddiad, Llwyddodd i fyned a'i deulu i'r Penrhyn trwy ganol gwlad y Caffreriaid yn amser y rhyfel heb dderbyn un niwed. Wrth ganu'n iach i'w deulu ar fwrdd y llong, efe a addawodd ymuno â hwy yn mhen dwy flynedd; ond fel y mae'n hysbys, nis gallodd gyrhaedd Lloegr am bum' mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod ei arhosiad yn Nhref y Penrhyn, trwy gynnorthwy Syr Thomas Maclear, galluogwyd ef i adfer a pherffeithio ei wybodaeth seryddol, ac felly i barotoi ei hun gogyfer â'r daith fawreddog y penderfynasai ymgymeryd â hi.

Hyd yma, dilynasom symudiadau Livingstone fel Cenadwr syml am y cyfnod o un mlynedd ar ddeg yn teithio ac yn llafurio yn nghanolbarth Deheuol Affrica, yn cael ei symbylu yn unig gan y drychfeddwl mawr