Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymadawodd Mr. Oswell yn fuan, gan fyned i archwilio у Zamsbedi ddwyreiniol, a gadael y Cenadwr a'i deulu eu hunain yn ngwlad y Makalalo. Ebrwydded yr oedd Livingstone wedi dechreu llongyfarch ei hun, a sylweddoli yn ei feddwl y dyfodol dysglaer oedd o flaen y parthau hyn o Affrica, goddiweddwyd Sebituane gan salwch peryglus, sef enyniad yr ysgyfạint. Ofnai y Doctor weinyddu arno yn feddygol, rhag dygwydd i'r bobl, os byddai eu Penaeth farw, ei ddal ef yn gyfrifol. Ar brydnawn Sul, sef y diwrnod y bu efe farw, aeth Livingstone i'w weled, gan gymeryd ei fachgen bychan Robert Moffat i'w ganlyn. Yr oedd y Penaeth yn deall ei sefyllfa, a gofynodd i'r Cenadwr ei deimlo er mwyn profi pa un a oedd efe yn parhau yn ddyn ai peidio. Ymgysurai yn y syniad fod gobaith am fywyd tuhwnt i'r bedd. Gwedi ei gyflwyno i drugaredd Duw, yr oedd Livingstone ar fedr ymadael, pryd y ceisiodd Sebituane gyfodi ar ei benelin, gan ddywedyd:—"Ewch a Robert at fy ngwraig, Maunku, a dywedwch wrthi am roddi iddo laeth." Dyna y geiriau olaf a ynganodd efe ar у ddaear.

Wrth fyfyrio ar farwolaeth ei gyfaill eang-galon hwn (er mai arwarddyn ydoedd), cyffesa y Cenadwr fod pwnc y dyfodol mor dra dwfn a thywyll fel mai gwell a diogelach i ni ydyw credu yn ymostyngar a diymwad y. bydd i "Farnwr yr holl ddaear wneyd yr hyn a fo iawn." Gorfodwyd Livinsgtone i aros ar yr Ynys yn yr afon Chobe nes derbyn caniatad merch y diweddar Benaeth i deithio oddiamgylch y wlad, yr hyn a ganiatawyd iddo yn mhen oddeutu mis gwedi marwolaeth Sebituane.

Pan ymunodd Mr. Oswell a Livingstone drachefn, hwy a deithiasant gant a deg ar hugain o filldiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Sesheke, ac yn niwedd Mehefin, 1851, gwobrwywyd eu llafur gan ddarganfyddiad yr afon fawr Zambesi. Yr oedd ei chwrs a'i tharddle yn anhysbys y pryd hwnw, ond canfu Livingstone a'i gyfaill ei bod yn rhedeg o'r gogledd-orllewin, o bwynt pell tuhwnt i ganol y Cyfandir. Y mae'r wlad rhwng y Chobe a'r Zambesi yn Naliele yn wastadedd isel, a chan mwyaf