Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanifeiliaid gan y pryf gwenwynig a elwid "tsetse." Dyoddefasant hefyd oddiwrth brinder dwfr, yn nghyda'r rhwystrau mynych ar gyfrif amledd y coedwigoedd a'r llwyni, trwy ba rai yr oedd raid tori ffordd gyda'r fwyell. O'r diwedd, hwy a gyrhaeddasant y Chobe, cangen o'r afon fawr Zambesi, lle y'u derbyniwyd gyda llawenydd mawr gan lwyth Malkololo, y rhai a hysbysent fod eu Penaeth yn byw mewn lle ugain milldir i lawr yr afon. Cafwyd cwrwglau, ac aeth Livingstone ac Oswell i lawr y Chobe hyd at annedd Sebituane. Canfyddasant y Penaeth galluog yn canu mewn tônau a'u hadgofiasant am y gerddoriaeth gysegredig a arferir mewn Eglwysydd. Pan y clybu efe fod dynion gwynion yn ymofyn am dano, prysurasai Şebituane o'i brifddinas Naliele i'r Ynys ar y Chobe, lle y preswyliai efe yn awr. Gwedi i'r Cenadwr a'i gydymaith adrodd iddo yr anhawsderau a gyfarfuasent wrth geisio dyfod ato, efe a archodd iddynt na phrisient y golled a gawsent oherwydd gwenwyniad eu hanifeiliaid gan y "tsetse," yn gymaint a bod ganddo ef gyflawnder o ychain, yr hyn a'i galluogai i'w cynnysgaeddu a'r oll oedd arnynt eisieu. Gwedi hyn, efe a weinyddodd i'w hangenion trwy eu cyflwyno i ofal dyn, yr hwn a roddodd iddynt ychgig a mel i'w fwyta. Rhoddwyd iddynt hefyd grwyn ychain ystwythion ac esmwyth yn welyau. Cofnoda Livingstone mai y penaeth uchel hwn oedd yr anwarddyn ardderchocaf a welodd efe erioed; ac yn ei lyfr cyntaf, cawn ddesgrifiad godidog o berson ac arferion y Penaeth wedi ei ysgrifenu mewn arddull a ddengys fod y Cenadwr yn edmygydd brwdfrydig o'i ragoriaethau. Mawr oedd llawenydd Sebituane oherwydd fod y dyn gwyn yn cyfranu addysg i'w deulu duon ef; ac yn y parodrwydd gyda pha un y derbynid ei olygiadau gan Benaeth Makololo gwelai David Livingstone ddechreuad gyrfa faith o ddefnyddioldeb yn nghalon Affrica, a bod ei zel a'i ymroddiad rhyfeddol, o'r diwedd, ar fedr cael eu coroni â'r llwyddiant a deilyngent. Addawodd Sebituane iddo ef a'i deulu breswylfod mewn unrhyw barth y dymunai ymsefydlu i'r dyben o efengylu yn mhlith y bobl.