Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mrs. Livingstone a'u dri plentyn (Robert Moffat, Agnes, a Thomas Steele Livingstone), gyda'r bwriad o groesi y Zouga yn ei phwynt isaf. Aeth Sechele gyda'r Cenadwr a'i deulu hyd yn rhyd y Zouga, a thrwy ymbil a Lechulatebe, efe a gafodd i Livingstone gyflawn ganiatad i groesi yr afon. Ond cyn i'r Cenadwr allu defnyddio y caniatad i ymweled â Sebituane, cymerwyd ei blant yn gleifion gan dwymyn beryglus, yr hyn a'i gorfododd i ddychwel i Kolobeng unwaith yn ychwaneg: Yn ddamweiniol, bu y Cenadwr mor ffodus a chyfarfod yr heliwr caredig Oswell, ar y Zouga. Yr oedd Mr. Oswell wedi bod yn ddyfal a diwyd gyda'r gwaith o ladd cawr-filod (elephants), a chymaint fuasai ei lwyddiant fel y lladdasai ar gyfartaledd bedwar yn y dydd. Yn y cyfwng hwn, y mae calon ddiolchgar Livingstone yn ei orfodi i dori llinyn ei adroddiad er mwyn ymhelaethu ar wroldeb ardderchog a haelioni mawrfrydig y boneddwr Seisnig godidog Oswell. Efe a ddywed:—"Pan ddaethom i'r Penrhyn (Cape) yn 1852, a'm hugan ddu i un mlynedd ar ddeg allan o'r ffasiwn, ac heb ddimai o gyflog ar fy nghyfer, gwelsom fod Mr. Oswell, yn y modd caredicaf, wedi gorchymyn gwisgoedd cyflawn i'r plant haner noethion, y rhai a gostiasant iddo 200p., a rhoddodd y cwbl yn anrheg i ni, gan sylwi fod Mrs. Livingstone yn meddu hawl i'r budd oddiwrth yr helwriaeth a dyfasid ar ei phorfeydd hi."

Ar ei ail-ddychweliad i Kolobeng, cyfarfyddwyd Livingstone gan negeseuwyr oddiwrth Sebitune. Y Penaeth galluog hwn, gwedi iddo glywed am ymdrechion y Cenadwr i ymweled âg ef, a anfonodd dair ar ddeg o wartheg brychion i Lechulatebe, tair ar ddeg o wartheg gwynion i Sekomi, a thair ar ddeg_o wartheg duon i Sechele, gyda dymuniad taer i bob un o'r penaethiaid hyny gynnorthwyo y dyn gwyn i gyrhaedd ato ef. Livingstone yn ddiymaros a gychwynodd ar y drydydd ymgyrch i geisio cyrhaedd gwlad y-rhyfelwr enwog a'r Penaeth galluog Sebituane, a dilynwyd ef gan ei deulu a'i gyfaill Mr. Oswell. Ar eu taith, hwy a gyfarfuasant â llawer o golledion ac anhwylusdod oherwydd y dinystr marwol a wneid yn mhlith eu