Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o gyfathrach teuluaidd yr Hottentotiaid, y rhai a holwyd gan y teithwyr yn nghylch tarddiad y Zouga, i'r hyn yr atebasant ei bod yn cychwyn o Lyn Ngami, Gwedi teithio namyn pedwar gant o filldiroedd gyda glan y Zouga i gyfeiriad y llyn, hwy a benderfynasant adael eu holl ychain a'u gwageni, oddigerth yr eiddo Mr. Oswell, mewn pentref a chyflymu yn mlaen at y llyn. Cymerasant gwrwglau ar yr afon, ac yn mhen deuddeng niwrnod drachrefn daethant at lan ogledd-ddwyreiniol Llyn Ngami, yn gyflawn o ddysgwyliadau y byddai i'r darganfyddiad brofi yn fendith a ffynnonell cynnydd i'r parthau hyn. Ymddangosai mai cwrs cyffredin y llyn oedd o'r gogledd ogledd ddwyrain i'r de-dde-orllewin. I'r de-dde-orllewin nid oedd gorwel yn ganfyddadwy. Yr oedd dyfroedd y llyn yn groew. Trwy arbrawsiadau gyda hinraddyr a mesurydd cyfaddas i'r amcan, canfyddwyd fod y llyn oddeutu dwy fil o droedfeddi uwchlaw gwyneb y mor, ac oddeutu dwy fil o droedfeddi yn is na gwastad-dir Kolobeng. Llwyth o'r Batuaniaid a drigiannent lanau y llyn yn y parthau hyn; ac enw penaeth y llwyth oedd Lechulatebe. Livingstone a ofynodd i'r Penaeth hwn roddi iddo weision i'w arwain at Sebituane, Penaeth y Makololo, oherwydd myned at hwnw oedd prif amcan ei daith i'r gogledd. Hyderai y gallai, trwy ymweled ac ymddyddan â'r Penaeth hwnw, eangu cylch y llafur cenadol, trwy gael caniatad i ymsefydlu gydag ef a phregethu yr Efengyl i'r llwyth oedd dan ei lywodraeth. Gwrthododd Lechulatebe ganiatau ei fynediad, am yr ofnai y byddai mynediad Ewropeaid i'w wlad yn foddion i wneyd y Penaeth Sebituane yn alluocach a mwy peryglus i'w annibyniaeth ef. Gyda'i garedigrwydd arferol, cynnygiodd Mr. Oswell fyned yn ol i'r Cape i ymofyn cwch, gyda gwasanaeth pa un'y gallent fyned yn mlaen yn annibynol ar Lechulatebe; ond gan fod y tymmor wedi rhedeg yn mhell, gwrthododd Livingstone y cynnygiad haelfrydig hwn, a chan fod bwriadau y cwmni wedi eu dyrysu, am amser o leiaf, hwy a benederfynasant ddychwel i Kolobeng:

Yn mis Ebrill y flwyddyn ddilynol, gadawodd Livingstone Kolobeng unwaith yn ychwaneg, yn nghwmni