Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganiatad, a gwrthodwyd hefyd gais dilynol yr un modd, ar y sail y gallai y Matabeliaid, gelynion y Bechuaniaid, niweidio neu ladd y dyn gwyn, a dwyn ar bobl Sekomi waradwydd oherwydd hyny. Gwedi ei attal i groesi yr anialwch trwy yr esgusawd hwn, penderfynodd Livingstone gyrhaedd i'r tir ffrwythlon yr ochr draw trwy amgylchu yr anialwch ar yr ochr ddwyreiniol. Y Milwriad Steele (y presenol Is-Gadfridog, Syr Thomas Steele), yr Uwch-Gapten Frank Vardon, a Mr. W. C. Oswell a ddygwyddasant fod yn y parth hwn o Affrica ar y pryd yn mwynhau eu hunain fel boneddigion cyfoethog trwy hela yr helwriaeth fras a geid mewn cyflawnder yn rhandiroedd y Bakwainiaid. Pan wnaeth Livingstone ei fwriad yn hysbys i'r Milwriad Steele, y boneddwr hwnw a ddenodd ei gyfeillion Verdon ac Oswell i gynorthwyo yr anturiaeth Cyfrifid Anialwch Kalahari fel rhandir gwaharddedig, er nad oedd, mewn gwirionedd, ddim tra dychrynllyd yn nglyn âg ef, oddigerth diffyg dwfr, oherwydd yr hyn y trengasai amryw o'r Bechuaniaid o syched tra yn teithio neu yn hela trosto. Cychwynwyd o Kolobeng ar y 1af o Fehefin, 1849. Yr oedd y cwmni yn gynnwysedig o'r Dr. Livingstone a'i wraig a'i blant, y Milwriad Steele, y Major Frank Vardon, W. C. Oswell, ysw., a Mr. Murray, yn nghyda'r gwahanol weision Bechuanaidd. Gan ddilyn cwrs gogleddol, hwy a aethant trwy gadwyn o fryniau coediog, ac yna cymerasant y brif-ffordd hyd at Afon Bamangwato. Yn Serotli, diangodd dau ar bymtheg o'u hanifeiliaid i diriogaeth Sekomi, ond y Penaeth hwnw yn garedig a'u dychwelodd, gan daer erfyn ar y cwmni ail-ystyried eu. penderfyniad i groesi yr anialwch peryglus. Yn mhen pedwar diwrnod ar ddeg ar hugain wedi iddynt adael Kolobeng, hwy a ddaethant ar draws un o'r pyllau di-ddwfr sydd mor aml eu rhif yn sychdiroedd Affrica, lle y mae gwawl twyllodrus tywyniad yr haul ar y tywod yn arwain y teithwyr i gamdybio eu bod yn agos i wir lyn o ddwfr. Livingstone a'i gwmni a farchogasant i chwilio am y llyn tybiedig, ond ni chanfyddasant ddim ond y Zouga, sef afon a redai i gyfeiriad gogledd orllewinol. Ar yr ochr gyferbyniol i'r afon preswyliai cyfran o lwyth