Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mhlith y llwythau oeddynt ddyledus i lafurio am nawddogaeth ac amddiffyniad y ffermwyr gwynion. Ni phetrusodd Livingstone gyfodi ei lais yn erbyn y gorthrwm annuwiol hwn; ac oherwydd hyny, daeth yntau hefyd yn wrthddrych dygasedd y Boeriaid, y rhai a ddyfal ddysgwylient am gyfleusdra i ddial arno.

Gan ddilyn ei syniadau arbenig ei hun am nodwedd dyledswyddau cenadwr, mabwysiadodd Livingstone gynllun gwahanol i'w ragflaenoriaid, trwy fyned a'r Efengyl i blith llwythau Paganaidd oddiamgylch ogylch Kolobeng, gan deithio tri chant o filldiroedd i'r dwyrain. Ni ddysgwyliai ef i'r Paganiaid ddyfod i ymofyn yr Efengyl, ond penderfynodd fyned a'r Efengyl atynt hwy, ac felly gyflawni yn llythyrenol orchymyn ei Feistr Mawr—"Ewch a phregethwch yr Efengyl i'r holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan." Ar ei ddychweliad o daith genadol o'r natur yma, canfu Livingstone fod gelyniaeth y Boeriaid tuagat y cenadon yn cynnyddu, ac aeth at eu Penaeth a'u Llywiadur i'w rhybyddio o'r perygl a ddeilliai o geisio attal cynnydd a rhydd-rediad yr Efengyl yn mhlith y llwythau anwaraidd. I hyn yr atebodd y Penaeth Boeraidd ei fod ef yn bwriadu ymosod ar unrhyw lwyth a dderbyniai genadwr brodorol. Gwedi canfod nad oedd bosibl perswadio yr amaethwyr anhyblyg trwy ymresymu â hwy, penderfynodd Livingstone ymchwil am lanerch gyfleus a chyfaddas yn mhell oddiwrthynt, lle y gallai ymsefydlu gyda'i ddeadell Gristionogol heb iddynt fod yn achos o gyffro a therfysg. Yn ystod ei wibdeithiau oddiamgylch Kolobeng, efe a glywsai yn fynych fod tir ffrwythlon a dymunol yn gorwedd i'r gogledd tu hwnt i anialwch Kalahari. Yr oedd Sekomi, Penaeth Bakwainaidd, yn gwybod am ffordd ar hyd yr hon y gellid croesi yr anialwch yn ddiberygl, ond cadwai y Penaeth bob gwybodaeth am y ffordd hono yn gwbl iddo ei hun. Ar gais Livingstone, y Penaeth daionus Sechele a anfonodd genadon at Sekomi, gydag anrhegion dymunol, i erfyn caniatad i'r teithiwr gwyn groesi ei diriogaeth, Ond mam Sekomi, yr hon oedd yn meddu dylanwad mawr ar y Penaeth, a wrthododd roddi y fath