Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Kolobeng. Mewn llawer gormod o agosrwydd i'r lle er les y genadaeth yr oedd y Boeriaid Seisnig ac Is-Ellmynaidd, neu amaethwyr Mynyddoedd Cashan, Yr oedd y penrhyddid difyr a'r annibyniaeth didrefn a fwynheid gan yr ymfudwyr amaethyddol cyntefig wedi tynu sylw llawer o gymeriadau drygionus, y rhai a deimlent y gyfraith Brydeinig yn Nhrefedigaeth y Cape fel iau annyoddefol. Yr oedd y rhai hyn hefyd, yn ol eu tyb eu hunain, wedi derbyn anghyfiawnder trwy yn hyn a alwent yn rhyddhad diachos y caethion Hottentotaidd; a chan ddilyn tueddfryd eu meddyliau ffromllyd, hwy a gydymunasant i ffurfio math Weriniaeth yn Magaliesberg, o dan gyfreithiau ystwyth yr hon y gallent gadw caethion a mwynhau y rhagorfraint anmhrisiadwy o orfodi llafurwyr i weithio iddynt hwy heb na chyflog nac ymborth.

Gellir crybwyll dernyn dyddorol o hanesiaeth Affricanaidd yn y fan yma er dangos mor ryfeddol debyg yw hanes yr holl genhedloedd duon a gwynion yn mhob parth o'r byd. Adgofir darllenwyr Seisnig fel gwahoddwyd y Sacsoniaid i Loegr i gynnorthwyo y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, a'r modd y darfu i'r Sacsoniaid hyny drachefn feddiannu Lloegr. Preswylid Mynyddoedd Cashan gan y Bechuaniaid, y rhai a fawr flinid gan draha anwar y Caffreriaid, o dan Benaeth o'r enw Dingaan. Pan glybuasant fod dynion gwynion yn awyddus i ymsefydlu yn eu plith, y Bechuaniaid a groesawasant y bwriad gyda brwdfrydedd. Ond ni buont amser maith cyn deall, fod y Boeriaid gwynion yn waeth na hyd y nod y Caffreriaid, er mor annyoddefol oedd y rhai olaf. Yn ol eu dywediad hwy eu hunain:—"Y Boeriaid a ddinystrient eu gelynion ac a wnaent eu cyfeillion yn gaeth-weision." Yn gyfnewid am ganiatad i fyw o dan aden eu hamddiffyniad hwy, y Boeriaid a orfodent y bobl i wrteithio eu tiroedd, i'w chwynu, medi, cyfodi arnynt adeiladau, a gwneyd iddynt lynau a chamlesydd; a chynnal eu hunain yn ychwanegol at y cwbl. Gan fod y Bakwainiaid yn perthyn i'r llwyth Bechuanaidd, ac yn preswylio mewn dosbarth a gytrifid o fewn terfynau y Weriniaeth, cyfrifid; hwythau yn