Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddeutu deugain milldir i Chonuane. Perswadiodd y cenadwr y Bakwainiaid i ymfudo i randir prydferth ar lanau yr afon hon. Ar lanau y Kolobeng, darfu i'r trydydd sefydliad cenadol a blanwyd gan ein Genadwr flodeuo a llwyddo mewn modd dymunol. Torwyd yno gamlas, trwy gyfrwng pa un y dyfrheid y wlad gylchynol. Heblaw adeiladu ei dy â'i ddwylaw ei hun, darfu i Livingstone hefyd gynnorthwyo i adeiladu ty i Sechele, ac arolygu adeiladiad Eglwys Genadol. Efe a ddysgasai gelfyddydau y gof a'r saer yn Kuruman, a'r prif genadwr profiadol ac ymarferol Moffat a ddysgasai iddo y gelfyddyd o wneyd ei hun yn ddefnyddiol mewn sefydliad newydd. Tra yr oedd Livingstone yn llifio coed ac yn curo haiarn er budd ei genadaeth, ac yn diwyllio ei ardd ac ychydig dir llafur i'r dyben a gynnysgaeddu ei deulu â grawn a ffrwythau, yr oedd ei wraig yn gwneyd canhwyllau a sebon, yn nghyda dillad i'r teulu. Gellir crybwyll yn y fan hon ddarfod į Livingstone, yn ystod ei ystod ei ymweliadau i Gorsaf Kuruman, weled merch wylaidd a llednais y Parch, Robert Moffat, at yr hon y coleddodd efe gariad, yr hyn a derfynodd mewn priodas rhyngddynt. Y cwpl ieuanc a dreuliasant eu mis mel yn mhlith y Bakwainiaid cyfeillgar, y rhai a'u derbyniasant fel eu cymwynaswyr a'u gwir ewyllyswyr da.

Cyfarfyddodd cenadaeth Kolobeng â llawer rwystrau; ac nid dedwyddwch digymysg a fu rhan y cwpl Cristionogion ardderchog yn y llanerch anghysbell hon o Affrica. Yr oedd y wlad oddiamgylch Kolobeng yn ddarostyngedig i dymmorau o sychder dinystriol, ac yn niffyg gwlaw deuai y cymysgedd priddlyd yn hollol galed ac anffrwythlon, a'r ddaear i edrych yn llom a diffaeth, a phob planhigyn ac eginyn yn edwino ac yn trengu ar ei gwyneb. Oherwydd hyn, nid oedd yno gyflenwad rheolaidd o ymborth; a mynych y gorfodid y gwrywod perthynol i'r sefydliad i fyned oddicartref am wythnosau mewn ymchwil am gigfwyd pryd na byddai grawn o un math i'w gael.

Heblaw hyn, yr oedd dylanwad drygionus arall hefyd yn llesteirio llwyddiant tymmorol ac ysbrydol trefedigaeth