Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorphwys ar ei wegil, ac wrth wneyd hyn canfu Livingstone y bwystfil y'n edrych tuagat Mebalwe, yr hwn a safai o fewn oddelitu deg llath, gan geisio saethu ato. Dryll Mebalwe a wrthododd danio, a'r llew a neidiodd ar gorff ei wrthwynebydd ac a'i brathodd yn ei glun, Rhuthrodd y llew ar ddyn arall a geisiodd waredu Mebalwe, a chydiodd yn ei ysgwydd; ond dyna oedd yr ymdrech olaf, canys fe syrthiodd yn farw yn y fan oddiwrth effeithiau y clwyfau a dderbyniasai. Torwyd braich Livingstone yn ymyl ei ysgwydd, a maluriwyd yr asgwrn yn ysgyrion. Ni ddodwyd y fraich yn ei lle byth yn briodol; a'r canlyniad o ddiffyg cynnorthwy meddygol cyfaddas ar y pryd a fu'i'r fraich fyrhau cryn lawer trwy i benau yr asgwrn drylliedig basio eu gilydd. Gwellhaodd yr aelod toredig, ond parhaodd yn gwbl ddiwerth i ddybenion yn galw am nerth braich; ac yr oedd llyfr o faintioli gweddol yn gymaint baich ag a allai y fraich hono ddwyn o hyny allan.

Daeth Livingstone i deimlo ymlyniad wrth y Bakwainiaid, a gwnaeth broselyt o Sechele, eu penaeth, yr hwn a gredodd Gristionogaeth mor ddiffuant fel y daeth ef ei hun i fod yn bregethwr a dadleuydd brwd dros yr Efengyl. Ac efe wedi arfer derbyn ufudd-dod, Sechele, ar y cyntaf, a deimlai anhawsder dirfawr i beidio gorfodi ei bobl trwy gyfrwng y fflangell i gredu yr hyn a ddywedid ganddo am Gristionogaeth. Gwedi gwrando ar y cenadwr yn apelio at y bobl i broffesu Crist, a chwedi datgan ei dosturi a'i gydymdeimlad oherwydd yr hyn a ystyriai efe yn llafur areithyddol diangenrhaid, Sechele a gyfarchodd Livingstone un dydd, gan ddywedyd:

"A ydych chwi yn dychmygu y bydd i'r bobl hyn byth eich credu trwy siarad â hwy yn unig? Nis gallaf fi gael ganddynt wneyd dim ond trwy eu curo; ond os mynwch, mi a anfonaf am fy mhrif weision, a chyda'n fflangellau nyni a wnawn iddynt oll gredu 'ar, unwaith".

Y Bakwainiaid oeddynt ar y pryd yn preswylio yn Chonuane; ond yr oedd y lle hwn yn ddarostynedig i sychder peryglus ar brydiau. Yn ystod ei wibdeithiau trwy y wlad, darganfyddasai Livingstone ffrwd brydferth o ddwfr pur, yr hon a elwid y Kolobeng, o fewn