Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anifeiliaid y brodorion. Yn ei ymdrech i gynnorthwyo у bobl i attal dinystr eu deađelloedd, trwy ymuno â hwy geisio lladd llew, ac felly i gynyrchu ofn yn mhlith y cyniweirwyr dinystriol, y dygwyddodd yr amgylchiad a alluogodd gyfeillion Livingstone i adnabod ei weddillion wedi y dygwyd y gweddillion hyny i Frydain i'w claddu. Ar eu mynediad allan o'r dyffryn, y cwmni a ganfyddasant y llewod ar fryncyn coediog. Yna y bobl a ymffurfiasant yn gadwyn oddiamgylch y bryncyn, gan amgau at eu gilydd fel y dringent i fynu ei lethrau. Safai Livingstone işlaw, gydag ysgolfeistr brodoraidd o'r enw Mebalwe, pryd y gwelodd lew yn eistedd ar graig yn nghanol y cylch dynol. Saethodd Nebalwe at y bwystfil, ond methodd yn ei anneliad; ac ar hyny y llew a gyfododd, gan gnoi y graig yn nghorphwylledd ei gynddaredd, ac yn ebrwydd wedyn torodd trwy y cylch a diangodd. Yn fuan ar ei ol, y llewod ereilla dorasant trwy y cylch yr un modd, a hwythau hefyd a ddiangasant yn ddiglwyf. A hwynt hwy yn dychwelyd i'r pentref yn aflwyddiannus, y cwmni a ddaethant ar warthaf llew arall yn eistedd ar graig fel y lleill. Pan oddeutu deg llath ar hugain oddiwrth y bwystfil hwn, Livingstone, gan gymeryd anneliad gofalus a chywir, a ergydiodd ato trwy friglwyn oedd rhyngddo ag ef. Yn unol a'u harferiad traddodiadol, y brodorion a lefasant mewn geiriau, "Y mae o wedi ei saethu, wedi ei saethu," ond ar amrantiad Livingstone a ganfu gorff y llew megys yn dychlamu trwy yr awyr. Y bwystfil a ymaflodd yn ysgwydd y teithiwr, gan ei daflu i lawr mewn eiliad, a'i ysgwyd fel ped ysgydwid llygoden gan ddywalgi. Hyd yn nod yn y sefyllfa arswydus yna, ni chollodd y teithiwr unrhyw gynneddf feddyliol, er i ryw ledwagder gwibiog, ddyfod drosto, yr hwn a eilw ef yn "fath o lesmair, yn mha un nid oedd feddyldrych am boen na theimlad o arswyd."

Ni chafodd ofn loches yn ei fynwes, er fod y llew yn chwythu ei ddrygsawr mileinig i'w ffroenau. Cadwodd ei lygaid i edrych yn llygaid y llew gyda math o ymwybyddiaeth dyeithr ac anarluniadwy o absenoldeb perygl. Trwy symud ei ben yn arafaidd, efe a waredodd ei hun oddiwrth bwys pawen y llew, yr hon oedd yn