Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffurfiodd ei ddychymyg, yr oedd yr adeg hon yn un buredigaethol iddo ef—yn adeg arbenig ie barotoad a'i gyfaddasiad gogyfer â'r genadaeth bwysig a chysegredig yr ymgymerasai â'i chyflawni. Rhaid fod y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan Gymdeithas Genadol Llundain yn wahanol i'r cyfarwyddiadau a roddir yn fynych i rai dibrofiad, canys wedi iddo gyrhaedd Gorsaf Kuruman, canfyddwn oddiwrth yr adroddiad o'i deithiau ddarfod iddo, ar ol mwynhau tymmor byr o orphwysdra, ymadael yn nghwmni cenadwr arall i wlad y Bakwainiaid, ar ba un yr oedd yr enwog Sechele yn benaeth.

Dychwelodd i Kuruman yn fuan drachefn, ac a aeth oddiyno i fan a elwid Lepelole, lle y tariodd am gyfnod o chwe' mis, gan lwyr ymwrthod â Chymdeithas Ewropeaidd o bob math, modd y gallai lwyr feistroli iaith y Bakwainiaid, a chyrhaedd dealltwriaeth drwyadl am ffyrdd, arferion, a defodau y bobl yn mhlith pa rai y bwriadai efe ymsefydlu. Yn ystod ei arhosiad yn Lepelole, darparodd gogyfer a gwneyd yno sefydliad cenadol. Gwnaeth gamlas i ddyfrhau y gerddi, a chyfododd wrychoedd oddiamgylch lleiniau bychain o dir diwylliedig, ac a adeiladodd feudai, ysguboriau, &c. Efe a amrywiaethai lafur rhagarweiniol ei genadaeth trwy wneyd teithiau i blith llwythau Bakaa, Bamangwat, a Makalaka, pryd yr enillodd iddo ei hun uchel anrhydedd yn ngolwg yr holl frodorion trwy wneyd teithiau llafurfawr ac anhawdd eu cyflawni.

Gwedi ei hunanalltudiaeth gwirioneddol yn Lepelole, efe a dalodd ail ymweliad â Kuruman i'r dyben o gyrchu ei gludnwyddau i'r sefydliad newydd; ond yn fuan, efe a glybu y newydd fod y Barologiaid wedi ymosod ar Lepelole, ac wedi ymlid ymaith y rhai y bwriadasai efe eu proselytio, yr hyn a barodd iddo droi allan drachefn i ymchwil am faes cyfaddas i sefydlu arno genadaeth.

Yn 1843 disgynodd ei ddewisiad terfynol ar Ddyffryn y Mabotsa fel lle cyfaddas i gychwyn ynddo sefydliad. Y Bakattiaid ar y pryd a fawr flinid gan lewod, y rhai, trwy gael eu hir oddef, oeddynt wedi dyfod mor hyfion fel yr ymwelent a'r buarthau a'r corlanau i ddinystrio