Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwog a fu i'r blaenaf dderbyn y dyledswyddau a gynnygiasid iddo gan Gymdeithas Genadol Llundain; a mordwyodd i Affrica yn y flwyddyn 1840, ac efe yn y seithfed flwydd ar hugain o'i oedran.

Yn y ddwy flwydd ar bymtheg cyntaf o fywyd Living stone, nyni a welsom arwyddion digonol i brofi ei fod ef yn uwchraddol i ddynion cyffredin. Cawsom brawfion o hyn yn ei ymdrechion diflin i ymddyrchafu uwchlaw y dosbarth yn mhlith pa un y'i ganesid—trwy gwrs ymroddgar o hunan-ddiwylliant, a'i waith yn ymgyfaddasu gydag ysbryd dewr gogyfer â'r yrfa ddewisedig, yr hon, ar ei laniad yn Affrica, y cawn ef ar fedr, ei chychwyn. Gwelsom ddechreuad dyn ardderchog, yn hanu o ddefnydd mor anaddfed a bachgen o wehydd mewn melin gotwm. Efe a ymddadblygodd trwy nerth elfenau dyrchafedig mawredd dynol, y rhai a etifeddwyd ganddo yn ddamweiniol oddiwrth Natur ei hun. Gan ymddyrchafu o ddinodedd bachgen tlawd, ond addawol, yn mhen tri mis wedi ei ymadawiad o Loegr, cawn ef yn glanio fel cenadwr ar ddaear Affrica Ddeheuol. Bydded i ni ei ddilyn, gan sylwi ar ogwyddiad ei lwybrau a'i ymdrechion.

PENNOD II

Y CENADWR

Yn fuan gwedi cyrhaedd ohono i Cape Town, cychwynodd David Livingstone i'w daith gyntaf, heibio i Arfor Algoa, i orsaf Kuruman, pwynt pellaf y genadaeth a sefydlasid gan Mr. Hamilton a Mr. Moffat. Yn ystod ei daith hirfaith dros y tir, fynyched y darfu i ddychymyg y cenadwr ieuanc geisio treiddo tuhwnt i'r gorwel bythgyfnewidiol, gan ymofyn rhagolwg ar yr yrfa a'r. dyfodol oeddynt o'i flaen! Fel pob meddwl egniol a bywiog, rhaid ei fod wedi delweddu yn nghysegrleoedd dirgelaidd ei galon luoedd o ddarluniau o ranau mewnol y wlad yn nghylch yr hon y clywsai efe gynnifer o draddodiadau gwylltion. Rhai o'r cyfryw ddarluniau yn ddiau a sylweddolwyd, ac ereilla brofasant yn lledrithiol. Ond nifer bynag o freuddwydion disylwedd a