Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgotaidd gwrolfryd, i orchfygu anhawsderau a rhwystrau tlodi, ac i gyfaddasu ei hun i lanw y cylch y rhyngasai bodd i Dduw enyn yn ei galon awydd i'w lanw, daeth yr amser i brofi swm y wybodaeth feddygol a gasglasai efe trwy ei hunan-addysgiant llafurfawr. Arholwyd ef gan Fwrdd Meddygol, pryd y daeth trwy y prawf llymaf mewn modd anrhydeddus, ac y cafodd ei wneyd yn un o Drwyddedogion Cymdeithas y Physygwyr a'r Meddygon.

Yr oedd Livingstone wedi dilyn ei efrydiau meddygol gyda'r bwriad o'u defnyddio er budd y Chineaid, fel Physygwr Cenadol; ond erbyn yr adeg iddo dderbyn ei raddogaeth, yr oedd ei faes dewisedig wedi cau yn ei erbyn trwy doriad allan ryfel y pabsudd (opium war). Gwedi ei gynghori gan gyfeillion yn nghylch yr annoethineb o geisio cario allan ei fwriad cyntefig, efe a gynnygiodd ei hun fel ymgeisydd am le yn ngwasanaeth Cymdeithas Genadol Llundain, "am nad oedd hono (yn ei eiriau ef ei hun) yn anfon Esgobyddiaeth, Presbyteriaeth, nac Annibyniaeth i'r Paganiaid—dim ond Efengyl Iesu Grist yn unig." Yr oedd y cynllun rhyddfrydig hwn yn gwbl gydweddol a'i syniadau eang a goleuedig ef am ddyledswyddau efengylydd.

Oddeutu yr adeg hon, yr oedd ymdrechion cenadol Robert Moffat yn Nheudir Affrica yn tynu sylw pawb, ac yn destynau clod a chanmoliaeth trwy Brydain Fawr. Gwedi mwy nag ugain mlynedd o brofiad yn mhlith llwythau Bechuana, dychwelsai Robert Moffat i Frydain, ac yr oedd efę ar y pryd yn ysgrifenu hanes y gwaith da a gyflawnasid ganddo yn Affrica.

Ac efe yn gyflawn o ysbryd awyddus i efelychu ymdrechion dynion daionus yn ngwaith Crist; David Livingstone a ymofynodd am yr anrhydeddus Moffat, gan geisio ei gynghor; a'r cenadwr profiadol, yntau yn gyflawn o'r brwdfrydedd sancteiddiaf dros ei alwedigaeth gysegredig, a gyfarwyddodd y dysgybl ieuanc yn nghylch y modd mwyaf effeithiol i gario allan ei gynlluniau hir fabwysiedig, gan awgrymu y buasai Deheudir Affrica yn faes tra dewisiol iddo ymgymeryd â'i lafurio. Canlyniad ymweliad Livingstone ieuanc â'r cenadwr