Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wybodaeth hono yn gynnorthwy gwerthfawr i ymdrechion Efengylydd.

Fel yr heneiddiai, ac fel yr ymeangai ei feddwl wrth ddrachdio yn barhaus o gwpan ysbrydoledig gwybodaeth, efe a ganfu werthfawredd gwybodaeth o egwyddorion daeareg, a gwnaeth deithiau ymchwiliadol meithion gyda glanau yr afon a thros y bryniau cylchynol yn nghwmni ei frodyr John a Charles, yr hyn, heblaw boddhau ei gariad at olygfeydd natur, a fu hefyd yn foddion i gadarnhau ei benderfyniad i ddyfod yn genadwr dros Grist i wledydd pellenig.

Pan yn bedair ar bymtheg oed, dyrchafwyd ef i'r gelfyddyd uwch a mwy enillgar o nyddiedydd cotwm, trwy yr hyn y daeth i enill gwell cyflog ac i feddu moddion i dalu am y fraint o gael gwrando darlithiau prydnawnol ar feddygaeth a duwinyddiaeth. Heb gynnorthwy neb arall, efe a gynnaliodd ei hun dros y gauaf yn Nglasgow, i efrydu y canghenau a nodwyd; a'r haf dilynol a dreuliodd i lafurio dros oriau meithion yn ddyddiol wrth ei droell gotwn. Gweithiai lawer mwy na'r oriau arferol er mwyn enill moddion i ddilyn ei efrydiau yn ystod y gauaf.

Ei wladgarwch, a'r teimlad gwir Seisnig hwnw, edmygedd o weithredoedd clodfawr ei gydgenedl—y teimladau a amlygasant eu hunain mor fynych yn ei darfodaethau dilynol â dynion barbaraidd—y teimladau goruchel hyn a feithrinwyd yn effeithiol yn ei fynwes gan yr amrywiol gofgolofnau hanesyddol oddiamgylch Blantyre, megys Priordy Blantyre, Pont Bothwell (lle y gorchfygwyd y Cyfammodwyr gan Monmouth yn 1679), yn nghyda'r lluaws golygfeydd oddiamgylch Hamilton, y rhai ydynt gyflawn o ddyddordeb barddonol a hanesyddol. Ysgrifau Syr Walter Scott ac ereill a wasanaethasant i enyn yn ei fynwes barch mawrfrydig i ogoniant yr Ysgotland yn yr amser gynt, yn nghyda'r gwladgarwch uchel ac angerddol hwnw a ysbrydolodd. ei mheibion i enill iddynt eu hunain anrhydedd mewn rhyfel ac mewn heddwch agos yn mhob gwlad o dan haul.

O'r diwedd, wedi llafurio yn bybyr, fel bachgen