Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn yr oedran cynnar o ddeng mlwydd, galwyd ar David ieuanc i gyflwyno ei wasanaeth plentynaidd tuag at gynnaliaeth y teulu, a chyflogwyd ef yn Melin Gotwm Blantyre. Wedi dechreu ohono weithio y dydd, efe a gyflwynodd ei brydnawniau i efrydu. Ar brydiau, ceid ef yn dilyn ei efrydiau a'i ymchwil am wybodaeth nes peri dychryn i'w fam, yr hon, mewn pryder am ei iechyd, a ymyrai yn benderfynol, trwy gymeryd ei lyfrau o'i ddwylaw a'i anfon yntau i'w wely.

Yr oedd oriau gwaith yn y Felin yn feithion—o chwech yn y boreu hyd wyth yn yr hwyr, heb ddim gorphwys ond yn unig dros amser boreufwyd a chiniaw. Modd bynag, er gwaethaf y fath lafur dyddiol hirfaith, efe a lwyddodd i gasglu swm mawr o wybodaeth trwy osod ei lyfrau ar garfan y gwehydd, o flaen ei lygaid, a dilyn ei wersi y nos gydag athraw a gadwai ysgol am bris cyfiseled fel y gallai hyd yn nod y plant tlotaf fwynhau manteision ei hyfforddiant.

Yn y modd yma, trwy hunanymroddiad dyfal, y gosododd Livingstone i lawr sylfaen ei addysg. Llyfrau gwyddonol a hanesion teithiau a dynent ei fryd a'i sylw penaf; ac yr oedd cwrs ei ddarlleniad yn cynnwys rhai o'r llyfrau clasurol mwyaf dewisedig, megys yr eiddo Homer, Virgil, Horace, ac Ovid.; ac nid esgeulusodd y fath ddoethineb grefyddol ag a geid trwy efrydu "Athrawiaeth Crefydd," "Athroniaeth Sefyllfa Ddyfodol," ac yn enwedig y Beibl. Sut bynąg; oddiwrth efrydu y Llyfr olaf—ffynnonell ddihysbydd ysbrydoliaeth grefyddol—ac, oddiwrth y gofal a fynwesid gan ei rieni'i nawseiddio ei feddwl a gwybodaeth Gristionogol, y tueddwyd ef i gyflwyno ei hun yn gyfan gwbl i lafur Efengylaidd, ac i gyflawni dyledswyddau cenadwr awyddus i hyrwyddo cyhoeddiad yr Efengyl i drigolion pob parth o'r byd, ac i liniaru dyoddefiadau a lleihau trueni dynoliaeth.

Wrth fyfyrio am y modd mwyaf effeithiol i wneyd daioni i'w gyd-ddynion, a chwedi darllen am yr hyn a wnaethid gan deithwyr a chenadon ereill dros achos Crist, efe a benderfynodd fyny peth gwbodaeth o'r gelfyddyd feddygol, gan farnu yn gywir y byddai y