Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Livingstone ei fod yn cyfranogi o falchder 'traddodiadol trigolion yr Ucheldir o'u cenedl a'u henafiaid. Teimla yn falch oherwydd ei fod yn alluog i ddyweyd ddarfod i'w daid ymladd a marw dros deulu Stuart yn Mrwydr Culloden. Yna, gyda diffuantrwydd tarawiadol ag sydd yn anrhydedd iddo ef a' chenedl yr Ucheldir, o ba un yr hanodd, efe a edrydd hanes teuluaidd a brofa mai meddyldrych mawr, llywodraethol ei deulu oedd bod yn onest. Dywed fod un o'i henafiaid, pan ar ei wely angau, wedi galw ei blant ato, gan eu hysbysu ddarfod iddo ef ddyfal chwilio yr holl gofnodau teuluaidd, yn mha rai y methodd a chanfod cymaint ag argoel o anonestrwydd yn hanes ei henafiaid, ac o ganlyniad yr oedd efe yn testamentu iddynt fel etifeddiaeth gyffredin y cynghor—Byddwch Onest."

Amaethwr yn Ulva oedd ei daid, yr hwn, wedi canfod nad oedd cynnyrch ei dir ddigonol i gynnal ei deulu lluosog, a ymadawodd ac a aeth i Weithfeydd Cotwm Blantyre.

Ei ewythroedd a ymunasant â gwasanaeth y Brenin fel milwyr a morwyr, ond ei dad a arhosodd yn Mlantyre; a phan y cyfeiria Livingstone at gymeriad ei riant, arddengys deimlad o falchder gwresog wrth adrodd fel y cofiai ac y parchai efe arwyddair ardderchog y teulu—"Bydd Onest." Ymchwydda ac ymwresoga ei falchder cyfreithlon fwyfwy wrth ddesgrifio y modd cydwybodol y cariai ei dad y rhinwedd traddodiadol hwn i weithrediad yn y cymeriad o fasnachydd bychan mewn te. Cofnodir hefyd ddarfod i'w dad, yn ychwanegol at egwyddori ei blant mewn gonestrwydd, eu dwyn i fyny mewn modd crefyddol yn athrawiaethau Eglwys Bresbyteraidd Sefydledig Ysgotland. Hysbysa y teithiwr enwog yn mhellach fod duwioldeb cyson ac esiampl dda yn teilyngu y diolchgarwch mwyaf a'r warogaeth uchaf oddiar ei ddwylaw ef.

Am ei fam, efe a lefara gyda'r edmygedd a'r parch mwyaf, gan ei desgrifio fel mam awyddus a phryderus i ymarfer cynnildeb, er mwyn gwneyd i ddau ben llinyn yr amgylchiadau teuluaidd gyfarfod yn hwylus,