Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyfeddol ei gyfansoddiad, trwy lareidd-dra, ei natur, yr hyn' a'i galluogai i ymgyfaddasu ar gyfer bywyd anwar yn ei holl agweddau, a'r awdurdod mawr a feddai 'ar feddyliau yr anwariaid.

Fel sylwedydd a gwyddonydd, nyni a'i hedmygem ar gyfrif dyfalwch trwyadl ei olrheiniadau i arferion, crefyddau, a'r deddfau a lywodraethant y llwythau anwaraidd; 'nodweddau y tiroedd newyddion, eu daearyddiaeth, natur eu planigion a'u hanifeiliaid, defnydd eu creigiau, a galluoedd cynnyrchiol eu gwahanol diroedd. Edmygem ef ar gyfrif y diwydrwydd a nodweddai ei olrheiniadau a'i deithiau, ei fedrusrwydd yn casglu ffeithiau hynod, a'r gronfa fawreddog o wybodaeth a roddodd efe i ni am gyfandir anadnabyddus.'

Fel dyn, edmygem ef oherwydd ei symledd ac plygrwydd ei feddwl, ei ostyngeiddrwydd nodedig, a'r caredigrwydd tyner, a'r llondid hapus a'i nhodweddai yn mhob cyflwr ac amgyllchiad.

Fel cyfaill, efe a synai bawb ar gyfrif diffuantrwydd ei gyfeillgarwch, yr addfwynder a lywodraethai ei gysylltiadau cyfeillgar, sefydlogrwydd y rhwymau cyfeillgar a'i hunent â'r rhai a ddeuent i gyfarfyddiad âg ef, a'i natur agored, gywir, a charuaidd.

Gwelir yr amrywiol nodweddau cymeriadol hyn, yr oll o ba rai yn nghyd a wnant ddyn gwir dda ac ardderchog, wedi eu dadblugu yn y cofnodion canlynol o Fywyd, Llafur, ac Ymchwiliadau David Livingstone.

PENNOD I.

DYDDIAU MABOED

GANWYD David Livingstone yn Mlantyre, swydd Lanark, Ysgotland, ar y 19eg o Fawrth, 1813. Yn y rhagymadrodd dyddorol i'w lyfr ar ei "Deithiau, ac, Ymchwiliadau yn Neheudir Affrica," cawn adroddiad ganddo ef ei hun am ei haniad a'r modd y treuliodd efe foreu ei oes. Yn ngeiriau agoriadol y buchdraith hwnw, dengys