Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneyd yn falchach o'n gwareiddiad ac yn peri i ni werthfawrogi ein gilydd yn well fel cydweithwyr yn yr un achos mawr, nag y buasem pe yr enynasid y fath gydymdeimlad gan farwolaeth gwr goludog neu un meddiannol ar ddylanwad politicaidd a gallu gwladol. Gwna hyn i ni fawrhau ein gilydd fel cyfangorff nerthol a galluog, pan yn unedig, i gyfranu bendithion i holl deulu dyn.

Y teithiwr ymadawedig a gladdwyd yn Mynachlog Westminster, ar y 18fed o Ebrill, oedd David Livingstone, yr hwn, am ei fawr a'i lafurus gariad ar ran y cenedloedd duon a gorthrymedig, a ryglydda ei alw yn Apostol Affrica. Ei fywyd ef oedd fywyd dyn a gerddai yn ostyngedig yn ffordd ei Arglwydd, a lwyr ymroddodd i wasanaethu ei Dduw, a ymdrechodd gyda gwyleidddra, ond eto gyda phenderfyniad ardderchog, a gwroldeb anorchfygol, i adfer cenedl ag oedd o'r braidd wedi ei llwyr anghofio gan Gristionogion y byd.

Wrth fyfyrio ar y cymeriad a adawodd efe ar ei ol fel esiampl ddysglaer i'r cenedlaethau a ddeuant, synir ni gan luosowgrwydd y nodweddion o fawredd ac ardderchawgrwydd a'i 'hynodai o'i febyd i'w henaint. Fel bachgen dinod yn y llaw-weithfa Ysgotaidd, hynododd David Livingstone ei hun ar gyfrif ei dueddiadau myfyrgar, ei ddiffuantrwydd, ei feddwl pybyr, a'i fawrygedd greddfol o werth addysg,

Fel Cenadwr efe a barodd syndod i'w gydweithwyr yn achos yr Efengyl ar gyfrif difrifoldeb a diffuantrwydd ei amcanion a'i weithredoedd, trwy ei ddyfalwch ymroddgar yn meistroli iaith ddyrus ac anhawdd ei dysgu, fel y gallai ei defnyddio yn nerthol a hyawdl, trwy y parodrwydd a ddangosai i ddyoddef pob caledi ac angenoctyd yn ngweinyddiad ei alwedigaeth, trwy, eangder ei amgyffredion a'i wybodaeth am angenrheidiau y gwaith, a thrwy yr awydd cydwybodol a'i llanwai am gyflawni ei waith hyd eithaf ei allu.

Fel ymchwiliwr efe a lanwodd ddynion ag edmygedd o'r beiddgarwch gyda pha un yr ymgymerai ag archwilio tiriogaethau anadnabyddus, trwy y dianwadalwch gyda pha un y cariai ei anturiaethau yn mlaen, gyda nerth