Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyflawnasai y dyn y galarent hwy y golled am dano, canys er ymadawiad olaf y teithiwr o lanau Prydain, y mae cenedlaeth newydd wedi tyfu i fyny a chyrhaedd oedran a gallu i syniaw ac ystyried. Y mae bechgyn oeddynt y pryd hwnw yn analluog i ddirnad pa beth a gynnwysai cyfandir mawr agos hollol anadnabyddus yn ei fynwes anchwiliadwy weithian yn cyflawni dyledswyddau bywyd yn ngwahanol raddau a safleoedd cymdeithas, ac yn mwynhau y rhagoriaethau perthynol i annibyniaeth ac addfedrwydd oedran.

Ond yr oedd un teimlad yn meddiannu yr hen, yr ieuanc, a'r canol oed sef teimlad o barch am ddyn ag y cytunai pawb ei fod yn gyflawn o raslonrwydd a gostyngeiddrwydd ysbryd, a'r hunanymwadiad a'r dyngarwch penaf, y rhinweddau hyny sydd brined mewn oes fel y bresennol—oes wedi ei syfrdanu gan awydd am gyfoeth a moethau.

Y mae nodweddion a gyfrifir yn ganmoladwy hyd yn nod gan y rhai mwyaf bydol—nodweddion a gydabyddir yn rhinweddol gan y rhai balchaf a mwyaf trahaus. Nid rhyfedd, gan hyny, fod. Mynachlog ardderchog Westminster wedi ei llenwi ar yr achlysur hwn gan gynulleidfa o feibion a merched dylanwadol Prydain Fawr, a'r rhai hyny wedi ymgynnull i dalu teyrnged darawiadol o bạrch i weddillion perchenog y rhinweddau a nodwyd. —Naturiol oedd i heolydd y brif-ddinas fawreddog gael eu gwneyd yn dystion o'r deyrnged gyffredinol o edmygedd a dalai y boblogaeth i goffadwriaeth y cenadwr a'r teithiwr marw.

Os oes rhyw olygfa fwy tarawiadol ac effeithiol na'r un a ga llygad y meddwl ar sefyllfa y teithiwr unig yn llafurio ac yn ymdrechu er mwyn ei gyd-ddyn trwy y rhwystrau a'i hamgylchynant yn Nghanolbarth Affrica, rhaid addef mai dyma ydyw—yr olygfa ar y miloedd galarus yn wylo oherwydd y golled am y teithiwr gwedi ei farwolaeth, fel y gwelwyd hwy yn wylo yn heolydd Llundain ddydd Sadwrn, y 18fed o Ebrill, 1874.

Y mae gwybod y gellir enyn y fath gydymdeimlad dwfn ag a fynegwyd mor ddefosiynol, eto mor effeithiol, gan farwolaeth dyn mor dlawd a gostyngedig yn ein,