Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES

BYWYD AC ANTURIAETHAU

DR. LIVINGSTONE.

GAN

HENRY M. STANLEY

(MR. JOHN ROWLANDS, GYNT O DDINBYCH)

RHAGARWEINIAD

Dodwyd gweddillion dyn gwir fawr ac ardderchog i orwedd yn y bedd o dan gerrig llwydion llawr Mynachlog Westminster ddydd Sadwrn, y 18fed o Ebrill. Gorlanwyd yr adeilad hybarch gan alarwyr, a llanwyd yr heolydd trwy ba rai y cerddai yr orymdaith angladdol gan feibion a merched a fyfyrient gyda gwynebau pruddaidd a mynwesau llawnion o alar am y dynged a oddiweddasai yr hwn y cludid ei esgyrn i'w claddu gyda'r fath seremoni ddifrifol ac effeithiol. Miloedd o bobl a synasent ac a ryfeddasent trwy gydol y blynyddau wrth glywed am weithredoedd mawrion a hynodion tarawiadol cymeriad y dyn a gyflawnodd y gweithredoedd hyny a edrychent ar yr elorgerbyd gyda llygaid, awyddus i dreiddio trwodd hyd at wyneb y dyn, a meddyliau chwannog i sylweddoli hanes y teithiwri a gleddid gyda'r fath rwysgfawredd ac edmygedd

Ni feddai y mwyafrif o'r edrychwyr namyn syniad egwan am fawredd a gwerth gwirioneddol y gwaith a