Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rediadau fel Eglwys, byddai yn dda i ni gadw ein golwg o hyd ar wella mewn dosbarthu ein gilydd yn ol ein cymhwysderau, a dwyn amrywiol ranau y gwaith yn mlaen yn ol gwell trefn. 'Fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.' Tit. iii. 8 a 14.

Cariad at Berson mawr yr Arglwydd Iesu sydd i fod yn ein calonau yn brif egwyddor i'n hysgogi at bob defnyddioldeb gyda'i achos. A grym y berthynas âg Ef ddylai fod ein nerth a'n doethineb gyda holl ranau y gwaith. Eto byddai yn dda i ni gymmeryd ein deffro gan rywbeth i sylweddoli yn gryfach ein perthynas â Iesu Grist a'n dyled i'w garu a'i wasanaethu â'n holl galon. Byddai yn dda i ni ystyried fod cynnydd y rhai fu o'n blaen gyda'r achos yn y dref, o dan y fath anfanteision, yn llefaru yn uchel, Fod rhagoriaeth breintiau, rhifedi, trefniadau, a chyfoeth yn gosod rhwymedigaeth arnom i lwyddo yn gyfattebol. Os darfu iddynt hwy yn eu gwendid gynnal yr achos, a chychwyn lleoedd newyddion, a chyfranu at gymdeithasau i ledaenu yr efengyl, dylai ein hymdrechion ni mewn amgylchiadau rhagorach redeg allan i ychwaneg o gyfeiriadau ac yn ddyfnach yn mhob ffrwd. Nid cynnydd cyffelyb i'n tadau a'n mamau ddylai ein boddloni ni, ond cynnydd cyfattebol i fanteision rhagorach a chyfrifoldeb mwy pwysig. Nid ychydig o gymhelliad, ychwaith, i fyned yn mlaen ydym wedi dynu arnom ein hunain drwy adeiladu capel mor wŷch a chostfawr. Er mai yn wir y dylid caniatau ychydig o anghysonder yn ein gweithrediadau ar gyfrif nad ydyw yr addoldy eto yn cael ei lenwi. Mae yn ofynol cael y capel yn llawn cyn y gellir disgwyl i bethau oddiallan a phethau oddifewn ateb yn llawn i'w gilydd. Yr un pryd dylai ei ragoriaeth ar yr hen gapel adgofio i ni yn un peth, fod eisieu ysprydoedd i addoli yr Arglwydd ynddo gyda rhagoriaeth cyfatebol mewn prydferthwch a gwylder sanctaidd. Ac hefyd disgwylir mewn canlyniad i hyny weithredoedd mwy anrhydeddus. Dylai harddwch y llŷs weithredu fel cynhyrfiad parhaus i fod yn fwy pendefigaidd at yr holl achosion da. Bydd y capel newydd yn dal i siarad yn uchel o hyd, Y disgwylir i bobl aeth i'r fath draul arnynt eu hunain ymateb yn deilwng o hyny at eraill.