Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erbyn dyfod a gwaith pawb felly at eu gilydd, yr oedd y cyfan yn y defnydd, a'r maint, a'r lliw, a'r dull fel yr oedd Duw eisiau iddo fod; a'r holl ranau o ddwylaw pawb yn cymmeryd eu gilydd yn gymhwys. Ac wedi gosod y gwaith yn nghyd, yr oedd yn brydferth a gogoneddus. Cafodd Duw ei foddhau a'i ogoneddu, a chafodd y cydweithwyr lawenychu yn nghyd yn yr olwg ar y gorchwyl ardderchog oeddynt wedi gwblhau.

Mae llawer o gyffroad a hyfrydwch yn nglyn â gweithio mewn cyssylltiad ac yn ol trefn. Ac nid yw yr eglwys yn Ngwrecsam wedi bod yn gwbl ddieithr i'r fantais o grynhoi a threfnu yr aelodau yn ol eu cymhwysderau. Gwelwyd y buddioldeb o weithio yn ddosbarthiadol drwy y blynyddau gyda'r ysgol sabbothol. Cymmaint yn ychwaneg ydyw casgliad y Feibl Gymdeithas yn y dref, oddiar fod personau neillduol yn cael eu gosod dan y cyfrifoldeb ac yn gweithredu yn ol trefn. Gwelwyd drachefn y fantais o drefniadau da a chael cydweithrediad pob oedran a sefyllfa gyda chasglu at y capel newydd. Profwyd y budd o osod cyfrifoldeb y cleifion, y tlodion, ac esgeuluswyr, ar bersonau neillduol yn yr eglwys. Gwyddom am y lles a ddeilliodd o roi cymmeradwyaeth i'r chwiorydd i ffurfio Cymdeithas Dorcas. Gwyddom am y lles o drefnu gwahanol gyfarfodydd bob wythnos i ateb i amrywiol ddoniau ac oedran yr aelodau, a chael yn eu tro gyfarfodydd cystadleuol. Yr un pryd, hwyrach, y gellid eto gael llawer mwy o waith gan yr eglwys a'r gynnulleidfa, pe y bai ychwaneg o gymdeithasau yn cael eu ffurfio; a phob oedran a rhyw yn cael eu gosod yn y naill neu y llall o dan y cyfrifoldeb → i ddwyn yn mlaen ryw ddefnyddioldeb a allant fod yn gymhwys.i'w wneyd. Er fod pob un o honom yn gyfrifol i'n Harglwydd am bob cymhwysder a feddwn ac am bob cyfleusdra at wneyd daioni fydd yn agor o'n blaen; yr un pryd y mae cryn symbyliad i'w gael mewn bod yn gyssylltiol â'n gilydd a than gyfrifoldeb y naill i'r llall yn yr Arglwydd. Iago iv. 17. O herwydd yr anhueddrwydd at waith ysprydol, a'r ymollyngdod sydd mor dueddol i rwymo ein meddyliau, y mae yn dda i ni wrth fath o orfodaeth arnom i gyflawni ein dyledswyddau. Ac i attal dirywiad yn ein hysbrydoedd a'n gweith-