Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph y rhai a dybir eu bod yn wanaf, ydynt angenrheidiol. Fel na byddai anghydfod yn y corph; eithr bod i'r holl aelodau ofalu yr un peth dros eu gilydd.' 1 Cor. xii. 20-26. A pheth o bwys mawr i eglwys ydyw cyd-ystyried bawb eu gilydd fel ag i gynnorthwyo mewn gosod eu gilydd yn y sefyllfa fwyaf fanteisiol i gymhwysderau pob un fod ar eu heithaf mewn defnyddioldeb: ac na byddo neb yn cael llonydd i esgeuluso y ddawn sydd ynddo.
Pan oedd yr eglwys yn y diffaethwch gynt yn gwneuthur y Tabernacl yn dŷ i'r Arglwydd, yr ydym yn cael bod holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, yn offrymu yn ewyllysgar tuag ato o'r pethau oedd ganddynt. Yna ni gawn fod pob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo, yn dyfod yn mlaen i weithio y defnyddiau at y tŷ; sef pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesau at y gwaith i'w weithio ef. A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylaw; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llian main. A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. Ex. xxxv. 25-35. Cael eu cynhyrfu a'u donio gan Yspryd Duw yr ydoedd pawb gynt i waith tŷ yr Arglwydd; eto, cymmerai rhai eu lle yn well o dan Bezaleel, yr hwn oedd wedi ei lenwi â doethineb i ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio yn mhob gwaith cywraint. Cymmerai eraill eu lle yn well o dan Aholïab, saer cywraint, a gwnïedydd mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llian main. Ex. xxxviii. 23. Ond nid oedd eu bod yn ddosbarthiadau a chan bawb eu gwaith priodol eu hunain ddim yn rhwystr iddynt fod gyda'u gilydd yn un corph ac yn cydweithredu at ddwyn yn mlaen oruchwylion yr un tŷ. Oblegid ni gawn fod yr holl bobl yn ddarostyngedig i Moses, ac i gyd yn gweithio yn ol y portreiad a ddangosodd Duw yn y mynydd. Ac wrth i bawb gael eu trefnu yn ol eu cymhwysderau, a phawb yn gweithio, a hyny yn ol portreiad Duw ei hun, fe aed yn mlaen yn ddeheuig a chyflym gyda'r gwaith.