Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dyn i'r gwaith, yr oeddynt yn gallu dychwelyd gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. Lúc x. 17. A chan mai Mab y dyn sydd yn diwallu ei weision âg awdurdod ac yn rhoddi i bob un ei waith ei hun, 'does gan neb yn yr eglwys ddim esgus i fod yn ddiwaith. Pwy bynag sydd eisieu gwybod ei waith ac eisieu cymhwysder at ei gyflawni yn iawn, aed yn ddifrifol at Iesu Grist am ei roddion. 'Ac od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef. Rhuf. viii. 9. Gan hyny, ymofyned pob un, er lleshad llaweroedd, er ei gysur a'i wobr ei hun, ac i ochel dirywiad fel Eglwys, am gynnydd mewn defnyddioldeb personol dros yr Arglwydd Iesu.

II. FOD LLWYDDIANT YR HOLL AELODAU MEWN UNDEB A'U GILYDD YN OL FEL Y CAIFF Y GRASAU A'R DONIAU EU HIAWN-GRYNHOI A'U HIAWN-OSOD I GYDWEITHREDU.

Mae y naill yn dylanwadu ar y llall. Fel y mae y dylanwad cyfunol yn cael ei wneyd i fyny o gymhwysderau pob un ar wahan, felly y mae y dylanwad cymdeithasol yn fantais fawr at lwyddiant personol. Pan y mae llawer mewn undeb â'u gilydd, yn cyflawni yr un gwaith o dan yr un meistr, y mae dosbarthiad a threfn yn ol medr y rhai fydd yn gweini, yn rhwym o fod yn fantais annhraethol at wneyd y gwaith yn dda ac yn gyflym. Pan y mae Paul yn ysgrifenu at un eglwys, y mae yn edrych arni fel corph hyd yn nod ar ei phen ei hun; ac yn ei chyssylltiadau a'i threfn fel arwyddlun o'r hyn ydyw yr holl eglwys ynghyd. 'Eithr chwychwi ydych gorph Crist, ac aelodau o ran.' 1 Cor. xii. 27. Dylai pob eglwys gan hyny edrych nid yn unig bod ynddi wir aelodau ond hefyd bod yr holl aelodau gyda'u gilydd yn gwneyd i fyny gorph. Trefn corph, cydweithrediad corph, cydymdeimlad corph, cyfanrwydd corph. A chan mai corph Crist ydyw pob eglwys wirioneddol, dylid edrych bod yr ymddangosiad a'r gweithrediadau yn ateb i'r fath berthynas oruchel. Bydd yr ystyriaeth mai corph ydyw yr eglwys yn fantais i'r aelodau amrywiol ddyfod i weled gwerth eu gilydd ac i fod yn barod i gynnorthwyo y naill y llall. 'Nid all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed,