ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd. Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. Fy mrodyr, od aeth neb o honoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef'—ni waeth pwy i'w droi am ei fod yn cael ei wneyd gan ryw un. 1 Thes. v. 14; Col. iii. 16; 1 Cor. xiv. 31; Iago v. 19. Gelwir arnom i ddwyn beichiau ein gilydd, i weddïo dros yr holl saint, i gofio y rhai sydd yn rhwym fel pettem yn rhwym gyda hwynt, ac i ymdrechu dyddanu ein gilydd trwy ystyriaethau cymhwys o'r gwirionedd. A chyd-ystyried bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da. Gal. vi. 2; Eph. vi. 18, 19; Heb. xiii. 3, a x. 24. Digon o waith, onide, i'r holl aelodau eglwysig at eu gilydd; heblaw dyledswyddau at y byd annuwiol, i gael y rhai sydd yn esgeuluso i ddyfod at freintiau yr efengyl, ac i gael y rhai sydd yn gwrando i ddyfod yn nes.
Eto, 'od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef onid ymdrech yn gyfreithlawn.' A thuag at i ymdrech pob un o blaid yr efengyl fod yn rheolaidd, dylai pob un gofio fod yn rhaid dal yr un berthynas â Iesu Grist yn ein defnyddioldeb ag yn ein gras, Rhaid i bob un dderbyn y naill fel y llall oddiwrtho Ef. 'Canys Mab y dyn sydd fel gwr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i'r drysawr wylio.' Marc xiii. 34. Mab y dyn ei hunan sydd yn awdurdodi neu yn cymhwyso ei weision i'w gwaith trwy roddi yr Ysbryd Glân iddynt. 'Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.' Matt. x. 1. Rhaid i ninnau fyned at Fab y dyn o hyd i dderbyn yr awdurdod ac i wybod ein gwaith. Mae perygl i ni ryfygu o honom ein hunain at waith heb ei gael ac heb awdurdod at ei wneyd. Aeth ryw saith o feibion i Scefa i gymmeryd arnynt enwi uwch ben y rhai oedd âg ysbrydion drwg ynddynt enw yr Arglwydd Iesu, heb fyned yn gyntaf at Fab y dyn i dderbyn y gwaith a'r awdurdod at ei wneyd; ond cawsant eu gyru i ffoi yn noethion ac yn archolledig gan yr yspryd drwg. Act. xix. 13-16. Ond wedi i'r deg a thriugain gael eu hawdurdodi gan Fab