Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydag achos yr Iesu; a bydd hyn yn barotoad ac yn sylfaen dda i ddefnyddioldeb mwy cyhoeddus. 'Canys ffrwyth yr Yspryd sydd yn mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd.' Eph. v. 9.

Ond er cymmaint ydyw defnyddioldeb dystaw pob un sydd yn ofni Duw ac yn bucheddu bob dydd yn eirwir, yn onest, yn gyfiawn, yn fwynaidd, ac yn drugarog, eto ni ddylai neb fod heb ymgyrhaedd am gymhwysderau i wasanaethu Iesu Grist mewn ryw ffyrdd eraill. Dywedir wrthym am ddilyn cariad a deisyf doniau ysprydol fel ag i allu llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur; a cheisio rhagori at adeiladaeth yr eglwys. 1 Cor. xiv. 1,-3, 12. Dichon fod mwy o berygl i aelodau eglwysig yn ein plith ni y dyddiau hyn, pan y mae yr eglwysi yn galw gweinidogion at y rhanau mwyaf ysprydol o'r gwaith, i fyned i feddwl bod defnyddioldeb cyhoeddus ac uniongyrchol yn beth ag sydd yn perthyn yn unig i ryw rai penodol. Ond y mae y rhanau ysprydol mor helaeth ac amrywiol fel y gall yr holl lwythau gael etifeddiaeth eang o honynt. Ac wrth ddeisyfu a pherchenogi y rhai goreu a mwyaf o honynt, nid oes dim perygl i'r doniau ddarfod nac i'r naill fyned a lle y llall. Ni chyfynga Judah ar Ephraim, yn yr ystyr yma; ac wedi i'r llwythau gymmeryd meddiant helaeth iddynt eu hunain, bydd digon o le wed'yn i lwyth Lefi gael rhan ac etifeddiaeth eang yn mysg eu brodyr, ac i fendigo digon yn enw yr Arglwydd. Dim ond i bawb gymmeryd eu harwain gan yr un Yspryd, yna ni chenfigena Ephraim wrth Judah, ac nid oes berygl wed'yn i ni wneyd gwaith ein gilydd, na siarad ar draws ein gilydd, na gwrth-ddyweyd ein gilydd, na grwgnach yn erbyn ein gilydd, 'Canys nid yw Duw awdwr anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi y saint.' 1 Cor. xiv. 33.

Mae y Testament Newydd yn galw am sylw ac ymdrech pob un yn yr eglwys, y naill fel y llall. Gesyd ar bawb i ofalu, pawb i weddïo dros eraill, pawb i gynghori, pawb i rybuddio, pawb i ddysgu, pawb i adeiladu eu gilydd. 'Yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr'—nid y rhai sydd mewn swyddau yn unig-'Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. Gan