agosoch â'n gilydd ac â lleshad ysprydol pawb o'n cwmpas. Os ydwy cyssylltiad pob un â Christ yn cynnwys bedydd â'r Yspryd Glân ac ân thân, yna y mae y tân hwnw at wneyd pob un yn oleuni'r byd; ac yna i amlygu ei hun mewn disgleirdeb a gwres i bawb o gwmpas. Os ydyw perthynas â Christ yn ein gwneyd yn halen y ddaear, yna yr ydym i dreiddio o'n hamgylch er blasuso ac attal llygredigaeth a drygsawredd. Os ydyw perthynas â Christ yn ein gwneyd yn surdoes yn y blawd, yna yr ydym i wneyd ein rhan mewn suro y cwbl oll. Matt. iii. 11, a v. 13, a xiii. 33. Mae perthynas â Christ yn codi pob un i dreiddio yn y modd yna drwy y cylch y mae yn troi yn wastadol ynddo. Mae ei holl fywyd yn llewyrchu goleuni o Grist. Nid peth at ryw gyflawniadau ac at ryw adegau yn unig ydyw ein crefydd, ond peth i fod gyda ni yn mhob man ac i drwytho ein holl arferion. Cryn gam-gymmeriad ydyw gwneyd gwahaniaeth rhwng goruchwylion bydol un a'i ddyledswyddau crefyddol. Yr oedd chwaer un boreu mewn tristwch meddwl uwchben yr holl oruchwylion bydol oedd raid iddi gyflawni. Na elwch hwynt yn oruchwylion bydol,' meddai un arall wrthi, oedd wedi gwneyd cynnydd helaethach mewn crefydd, "does dim gwaith daearol i'r credadyn, ond y mae i gyd yn waith yr Arglwydd.' 'Pa beth bynag a wnelom, yr ydym i'w wneuthur o'r galon, megys i'r Arglwydd, ac nid i ddynion; canys yr Arglwydd Crist yr ydym yn ei wasanaethu.' 'Megys y darfu i Dduw ranu i bob un, megys y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hyny arhosed gyd â Duw.' Col. iii. 23, 24; 1 Cor. vii. 17--24. Dylai pob un ystyried ei hunan yn ei alwedigaeth a'i holl ymwneyd, nid yn eiddo iddo ei hun ond yn eiddo i'r Hwn a gyfodwyd o feirw: ac yn ei ddybenion, a'i eiriau, a'i holl ymddygiadau i ddwyn ffrwyth i Dduw.' Rhuf. vii. 4. Bydd felly yn egluro bywyd Iesu yn ei yspryd addfwyn a gostyngedig, ac mewn geiriau bob amser yn rasol, ac mewn gweithredoedd da a chymmeradwy ger bron Duw. Wrth lenwi y cylch dirgelaidd a theuluaidd yn dda, a llenwi cylch yr alwedigaeth dymhorol yn dêg ac yn ofn yr Arglwydd, bydd pob un felly o ddefnyddioldeb mawr yn barod
Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/97
Gwedd