mantais gyffredinol yr Eglwys, ymestyned pob un at gynnydd gwastadol mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. 2 Petr iii. 17, 18.
Hefyd, tuag at lwyddiant cyffredinol mewn Eglwys, fe ddylai pob un o'r aelodau ymestyn at gynnydd personol eto mewn defnyddioldeb. Y ffordd i ddyfod yn fwy defnyddiol ydyw, ceisio argyhoeddiad helaethach o'n drwg ein hunain, ac ymneillduo yn nes at Iesu Grist ac yn bellach oddiwrth bob meddwl ac ymddygiad pechadurus. 'Pwy bynnag gan hyny a'i glanhâo ei hun oddiwrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio ac yn gymmwys i'r Arglwydd, ac wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 2 Tim. ii. 21. Mae crefydd yr Arglwydd Iesu yn dwyn dyn i ddechreu 'ato ei hun.' A phan ddaw efe ato ei hun-i olwg ei dlodi a'i drueni fel pechadur —y mae yn cael ei ddwyn at Iesu Grist fel ei unig Waredwr; ac at Dduw, Barnwr pawb, i gael gwneyd ei achos ei hun yn dda. Yna wedi iddo ef ei hun gael ei wneyd yn gyfranog o Grist, ei awydd mawr wed'yn ydyw egluro bywyd Iesu yn ei ymarweddiad yn y byd; sef ymroddi at wneyd achos eraill o'i gwmpas yn dda. Ymgais gwastadol bywyd Iesu lle bynnag y mae y lyw, byw drosodd drachefn yr un bywyd ag a wnaeth yn Nghrist ei hun pan yma ar y ddaear: sef bywyd o ddileu pechod -bywyd yn aberthu ei hun i weithio pechod a'i ganlyniadau gofidus allan o'r byd, bywyd cyssegredig at adferu dynion o afael pob bai a thrueni, bywyd at fyned o amgylch gan wneuthur daioni a iachau pawb sydd wedi eu gorthrymu gan ddiafol. Yn mha enaid bynnag y mae bywyd Crist, ceir ef yn ymagor yn ol ei gynnydd a'i nerth i'r un dylanwad ar y byd ag oedd Iesu Grist ei hun yn osod arno. Yr oedd y fath berthynas rhwng dylanwad y disgyblion gynt â Iesu Grist 'rol ei ymadawiad, o ran eu buchedd a'u gwaith, fel mai myned yn mlaen yr oeddynt hwy gyda gwaith yr Iesu, a myned yn mlaen yr oedd yr Iesu drwyddynt hwy gyda'r hyn oedd Ef ei hun wedi dechreu ei wneuthur a'i ddysgu o'r blaen. Act. i. 1.
Peth o bwys mawr i bob aelod gadw mewn côf parhaus ydyw, fod perthynas agosach â Christ yn cynnwys hefyd ddyfod i berthynas